Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig ym mwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llansannan.[1][2] Fe'i lleolir yn nyffryn Afon Aled, tua naw milltir i'r gorllewin o dref Dinbych.

Llansannan
Cerflun y ferch fach (1899) gan William Goscombe John
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.176°N 3.595°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000131 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auDarren Millar (Ceidwadwyr)
AS/auDavid Jones (Ceidwadwr)
Map

Mae Llansannan yn sefyll ar groesffordd bwysig i sawl ffordd ar ucheldir yr hen Ddinbych. Rhed yr A544 rhwng Abergele a Llanfair Talhaearn yn y gogledd a Bylchau a Phentrefoelas yn y de trwyddo. Mae lonydd eraill yn ei chysylltu â Gwytherin, Llanrwst a Llangernyw.

Mae'r eglwys yn gysegredig i Sant Sannan. Ceir cae yn ymyl y pentref o'r enw Tyddyn Sannan a gerllaw Pant yr Eglwys, ar bwys y cae hwnnw, ceir sylfeini adeilad a oedd efallai'n eglwys gynnar gysegredig i Sannan.

Ceir cofgolofn i bump o lenyddion o'r plwyf yng nghanol y pentref gyda cherflun wrth ei throed. Pen-y-Mwdwl yw'r enw ar y bryn ar bwys y pentref. Yn yr hen ddyddiau roedd Ffair Llansannan, a gynhelid ym mis Mai, yn adnabyddus iawn yn yr ardal.

Llansannan - canol y pentref
Eglwys plwyf Llansannan

Henebion golygu

 
Plas Dyffryn Aled, Bryn Rhyd yr Arian ger Llansannan.

Adeiladwyd Plas Dyffryn Aled yn 1797 gan Diana Wynne-Yorke a bu'r teulu Wynne-York yn trigo yno hyd at ddechrau'r 20g.

Mae Crug Cae Du, Llansannan yn domen a godwyd gan bobl Oes Newydd y Cerrig neu Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau ac wedi'i leoli tua cilometr i'r de o Lansannan. Mae sawl crug arall gerllaw: Crug Bryn Nantllech, Crug Blaen y Cwm, Crug Rhiwiau, Rhos y Domen, Crug Plas Newydd a Crugiau Eglwys Bylchau. Mae'r rhain i gyd o'r math arbennig o grug sy'n cael eu galw'n "grug crwn" ac o fewn tafliad carreg i'r pentref. Ceir hefyd Carnedd gron Tan-y-Foel i'r de-orllewin, sy'n garnedd (heb bridd drosti) yn hytrach nac yn grug.

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llansannan (pob oed) (1,335)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llansannan) (831)
  
64%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llansannan) (949)
  
71.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llansannan) (157)
  
28.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 21 Tachwedd 2021
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Llyfryddiaeth golygu

  • W. Bezant Lowe, Llansannan, its History and Associations (1915)