Al Lewis
Canwr Cymreig yw Al Lewis (enw llawn: Alwyn Lewis Roberts), a ddaeth i sylw cyhoeddus pan gipiodd yr ail wobr yng nghystadleuaeth Can i Gymru 2007 gyda'r gân Llosgi.[1]. Cychwynodd ei yrfa cerddorol yn y band Bluewood, gyda chyd-aelod Arwel Lloyd Owen.
Al Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 1984 Pwllheli |
Label recordio | Cwmni Recordiau Sain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cyfansoddwr caneuon |
Arddull | canu gwerin |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Rhwng 2007 a 2008 rhyddhaodd ddwy EP yn y Gymraeg sef 'Byw mewn Breuddwyd' a 'Dilyn pob Cam'. Mae wedi chwarae mewn nifel o wyliau cerddorol gan gynnwys: Sŵn, Sesiwn Fawr, Maes B a Wakestock ynghyd â pherfformio ar raglenni fel Bandit, Nodyn a nifer o sesiynau i C2 Radio Cymru. Daeth ei albwm gyntaf 'Sawl Ffordd Allan' allan yn 2009 ac roedd yn cynnwys y caneuon Lle Hoffwn Fod, Trywydd Iawn a hefyd y gân Gwenwyn a berfformiwyd gan Meic Stevens.
Mae'r ail albwm Cymraeg Ar Gof a Chadw yn dilyn sŵn a naws In the Wake. Mae'r holl ganeuon yn trafod y syniad o fywyd yn gwibio heibio gan ein gadael yn hiraethu a'n gadael i fyfyrio ar y teimlad hwnnw o berthyn. Cyd-ysgrifennodd y caneuon gydag Arwel Lloyd, a gyda llais cefndir Sarah Howells.
Rhyddhaodd albwm Saesneg In the Wake' (ALM) yn 2010 a daeth yn artist y mis i'r cwmni Caffe Nero, gan deithio ledled gwledydd Prydain yn canu mewn caffis.
Ym mis Ebrill 2011 yng ngwobrau RAP Radio Cymru fe enillodd Al wobr "Artist Gwrywaidd y Flwyddyn".
Cyfeiriadau
golygu- Gwefan Al Lewis Archifwyd 2010-10-26 yn y Peiriant Wayback