Giovanni Della Casa
Bardd, esgob, a diplomydd Eidalaidd oedd Giovanni Della Casa (28 Mehefin 1503 – 14 Tachwedd 1556) sydd yn nodedig am ei lyfr cwrteisi Il Galateo (1558).
Giovanni Della Casa | |
---|---|
Portread o Giovanni Della Casa gan Pontormo (1541–44). | |
Ganwyd | 28 Mehefin 1503 Mugello |
Bu farw | 14 Tachwedd 1556 Rhufain, Montepulciano |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | llenor, offeiriad, bardd, diplomydd |
Swydd | archesgob Catholig, esgob, llysgennad y pab |
Bywgraffiad
golyguGaned ef yn Villa La Casa ger Borgo San Lorenzo ym Mugello, rhanbarth hanesyddol yng ngogledd Toscana, a oedd yn rhan o Weriniaeth Fflorens. Astudiodd ym mhrifysgolion Bologna, Fflorens, Padova, a Rhufain. Fe'i penodwyd yn Archesgob Benevento ym 1544 ac aeth i Fenis fel llysgennad y Pab Pawl III. Ym 1555 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd gwladol gan y Pab Pawl IV, ac y flwyddyn olynol bu farw ym Montepulciano, Gweriniaeth Siena, yn 53 oed.[1]
Gwaith
golyguO ran barddoniaeth, cyfansoddodd Giovanni Della Casa delynegion yn bennaf, ac yn ei ieuenctid ysgrifennai benillion dychanol yn null Francesco Berni. Ysgrifennodd hefyd weithiau gwleidyddol, gan gynnwys Orazioni politiche. Ei waith enwocaf ydy'r traethawd Il Galateo ar bwnc moesau, a ysgrifennwyd rhwng 1550 a 1555. Cyhoeddwyd Il Galateo yn gyntaf ym 1558.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Giovanni Della Casa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 14 Tachwedd 2021.