Girolamo Savonarola

Brawd Dominicaidd a diwygiwr eglwysig o'r Eidal oedd Girolamo Savonarola (21 Medi 145223 Mai 1498).[1] Ganwyd ef yn Ferrara ac astudiodd yn Bologna. Bu'n weithgar fel pregethwr yn Fflorens yn ystod y 1480au a'r 1490au a denodd dyrfaoedd mawr. Daeth yn adnabyddus am ei arddull broffwydol. Galwodd am adnewyddiad Cristnogol a gwadu llygredd yn yr eglwys a'r wladwriaeth. Ysgogodd ddinistrio celf a diwylliant seciwlar gan gynnwys llyfrau, yr hyn a elwir yn "goelcerth y gwageddau". Arweiniodd ei weithrediaeth at wrthdaro â'r Pab Alecsander VI. Cafodd ei ysgymuno ac yn ddiweddarach fe'i cafwyd yn euog o heresi a'i losgi wrth y stanc.[2]

Girolamo Savonarola
Ganwyd21 Medi 1452 Edit this on Wikidata
Ferrara Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 1498 Edit this on Wikidata
Fflorens Edit this on Wikidata
DinasyddiaethDugiaeth Ferrara, Gweriniaeth Fflorens Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athronydd, clerigwr rheolaidd, llenor, pregethwr, diwinydd, reformator Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Ferrara Edit this on Wikidata
Mudiadathroniaeth y Gorllewin Edit this on Wikidata
llofnod
Savonarola a dau o'i gydweithwyr yn cael eu llosgi wrth y stanc yn Piazza della Signoria, Fflorens, 23 Mai 1498

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Girolamo Savonarola". The Catholic Encyclopedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ebrill 2024.
  2. Luca Landucci, A Florentine Diary from 1460 to 1516 trans. Alice De Rosen Jervis (Llundain, 1927) pp. 142–143.
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o'r Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.