Girona
Girona yw prifddinas Talaith Girona, un o bedair talaith Catalwnia. Saif y ddinas yng ngogledd-ddwyrain Catalwnia, lle mae Afon Ter ac Afon Onyar yn cyfarfod. Roedd y boblogaeth yn 2005 yn 86,672.
![]() | |
![]() | |
Math | bwrdeistref yng Nghatalwnia ![]() |
---|---|
Prifddinas | Girona City ![]() |
Poblogaeth | 102,666 ![]() |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Marta Madrenas i Mir ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Narcissus of Girona, Felix of Girona ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Catalaneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Mancomunitat de Municipis Comunitat Turística de la Costa Brava, Q107554330 ![]() |
Sir | Gironès ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Arwynebedd | 39.1 km² ![]() |
Uwch y môr | 70 metr ![]() |
Gerllaw | Ter, Onyar, Güell, Galligants ![]() |
Yn ffinio gyda | Juià, Quart, Sant Julià de Ramis, Sarrià de Ter, Celrà, Fornells de la Selva, Salt, Sant Gregori, Vilablareix ![]() |
Cyfesurynnau | 41.9833°N 2.8167°E ![]() |
Cod post | 17000–17007 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | mayor of Girona ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Marta Madrenas i Mir ![]() |
![]() | |
Mae'r ddinas yn dyddio o'r cyfnod Rhufeinig, pan oedd sefydliad o'r enw Gerunda yno. Cafodd ei chyhoeddi'n ddinas gan Alfonso I, brenin Aragón yn yr 11g. Yn y 12g datblygodd cymuned Iddewig gref yma, a daeth yn ganolfan dysg Iddewig dan Rabbi Girona, Moshe ben Nahman Gerondi (mwy adnabyddus fel Nahmanides). Mae'r ghetto Iddewig yma yn awr yn atyniad i dwristiaid. Gwarchaewyd ar y ddinas 25 o weithiau, a chipiwyd hi 7 gwaith.
Mae yno brifysgol, ac mae'r maes awyr wedi tyfu yn sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf, yn bennaf oherwydd bod Ryanair yn ei ddefnyddio. Mae'r maes awyr yn aml yn cael ei hysbysebu fel "Barcelona"; mae dinas Barcelona rhyw awr i ffwrdd ar y bws.