Catalaneg
Catalaneg (Català / Valencià) | |
---|---|
Siaredir yn: | Sbaen, Andorra, Ffrainc |
Parth: | Ewrop |
Cyfanswm o siaradwyr: | 7,500,000, tua 3,500,000 arall yn ei deall |
Safle yn ôl nifer siaradwyr: | |
Achrestr ieithyddol: | Indo-Ewropeaidd Italeg |
Statws swyddogol | |
Iaith swyddogol yn: | Sbaen (Catalwnia, Falensia, Ynysoedd Balearig), Andorra |
Rheolir gan: | |
Codau iaith | |
ISO 639-1 | ca |
ISO 639-2 | cat |
ISO 639-3 | cat |
Gweler hefyd: Iaith – Rhestr ieithoedd |
Un o'r ieithoedd Romáwns yw Catalaneg (neu Catalwneg; Catalaneg: Català). Heblaw Catalwnia ei hun, siaredir yr iaith yn Andorra, yr Ynysoedd Balearig ac yn ne-orllewin Ffrainc.[1] Mae iaith rhan o Falensia a elwir yn Falensianeg yn debyg iawn, ond mae rhywfaint o ddadl a yw'n dafodiaith Gatalaneg neu'n iaith wahanol.[2] Cyfeirir at y tiriogaethau lle siaredir Catalaneg fel y Països Catalans gan genedlaetholwyr.
Geirfa ac Ymadroddion
golygu- Catalaneg: Català
- helo: hola
- os gwelwch chi'n dda: si us plau
- diolch: gràcies; mercès
- faint ydyw?: quant val?; quant és?
- ie: sí
- na: no
- Dydw i ddim yn deall: No ho entenc
- "Iechyd Da!": salut!
- Ydych chi'n siarad Cymraeg?: Que parla el gal·lès?
- Ydych chi'n siarad Catalaneg?: Que parla el català?
Dysgu Catalaneg
golyguNid oes deunydd i ddysgu Catalaneg ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd, ond gall y rhain fod o ddefnydd:
- Digui, digui... Curs de català per a estrangers. A catalan Handbook. — Alan Yates and Toni Ibarz. — Generalitat de Catalunya. Departament de Cultura, 1993. -- ISBN 84-393-2579-7.
- Teach Yourself Catalan. — McGraw-Hill, 1993. — ISBN 0-8442-3755-8.
- Colloquial Catalan. — Toni Ibarz ac Alexander Ibarz. — Routledge, 2005. — ISBN 0-415-23412-3.
Viquipèdia
golyguCaiff y Wicipedia Galatlaneg ei hystyried yn un o'r wicis gorau, mewn urhyw iaith[angen ffynhonnell]. Mae dros 760,000 o erthyglau (Ionawr 2025).[3]
Gweler hefyd
golygu- Joan Oliver i Sallarès - un o lenorion mwyaf nodedig Catalwnia yn y 20G.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "català | enciclopedia.cat". www.enciclopedia.cat. Cyrchwyd 2025-01-07.
- ↑ "Catalan language | History, Grammar & Dialects | Britannica". www.britannica.com (yn Saesneg). 2024-12-20. Cyrchwyd 2025-01-08.
- ↑ Viquipèdia
Dolenni allanol
golyguCatalaneg Archifwyd 2007-09-26 yn y Peiriant Wayback Mercator Cyfryngau
Learn Catalan online
Geiriadur Cymraeg-Catalaneg Archifwyd 2006-02-22 yn y Peiriant Wayback
Geiriadur Catalaneg-Cymraeg Archifwyd 2006-02-18 yn y Peiriant Wayback