Gitâr

(Ailgyfeiriad o Gitarydd)

Offeryn cerdd gyda thannau yw gitâr.

Gitâr glasurol
Henriette Ronner-Knip

Mathau

golygu

Gitâr acwstig

golygu

Mae'r gitâr acwstig wedi ei gwneud o bren, gydag un twll crwn yng nghanol ei chorff. Pwrpas y twll yw cynhyrchu sŵn uchel drwy chwyddo'r sŵn. Mae pob un o'r chwe tant yn ffurfio nodyn gwahanol a ddynodir gyda'r symbolau: E A D G B E.

Pan dynnir y tannau maen nhw'n dirgrynu a dyna sy'n creu'r sŵn. Defnyddir gitâr acwstig mewn cerddoriaeth werin a chanu gwlad, cerddoriaeth glasurol ac mewn rhai mathau o ganu pop.

Mae yna wahanol fathau o gitarau acwstig e.e gitâr acwstig tannau neilon a gitâr acwstig tannau dur.

Mae gan y gitâr glasurol wddf eithaf llydan fel bo'r tannau â mwy o le rhyngddynt, i alluogi'r cerddor i blycio'r tannau gyda'i fysedd. Gwneir y tannau o neilon neu gwt (cordyn a wneir o goluddyn dafad), sydd yn gysurus i flaenau'r bysedd o gymharu â thannau metal.

Gitâr drydan

golygu

Mae'r gitâr drydan fel arfer wedi ei greu o bren neu blastig. Yn lle twll yn y canol, mae gan gitâr drydan "pickups" sef synhwyrydd electronig tebyg i feicroffôn i godi'r sŵn. Mae'r synhwyryddion hyn yn casglu'r cryndodau yn y maes magnetig a'u chwyddo. Rhai o nodweddau ychwanegol gitâr drydan yw "distortion" ac "overdrive".

Defnyddir gitâr drydan mewn cerddoriaeth canu gwlad, roc (a roc trwm) a pop.

Cafodd y gitâr drydan gyntaf ei greu yn yr 1930au cynnar, fel "lap steel".

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: