Gwleidydd a barnwr Eidalaidd yw Giuliano Amato (ganed 13 Mai 1938) a wasanaethodd yn Brif Weinidog yr Eidal ddwywaith, o Fehefin 1992 i Ebrill 1993 ac o Ebrill 2000 i Fehefin 2001.

Giuliano Amato
Giuliano Amato yn 2001.
GanwydGiuliano Amato Edit this on Wikidata
13 Mai 1938 Edit this on Wikidata
Torino Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas yr Eidal, yr Eidal Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Scuola Normale Superiore
  • Ysgol y Gyfraith Columbia
  • European University Institute
  • Prifysgol Pisa
  • Sant'Anna School of Advanced Studies Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithegwr, barnwr, academydd Edit this on Wikidata
SwyddPrif Weinidog yr Eidal, Gweinidog Mewnol yr Eidal, Prif Weinidog yr Eidal, Aelod o'r Senedd Eidalaidd, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, judge of the Constitutional Court of Italy, Comisiynydd yr ICDB, Vice President of the Council of Ministers of Italy, Gweinidog y Trysorlys, Gweinidog Tramor yr Eidal, Y Gweinidog dros Ras a Chyfiawnder, Gweinidog Tramor yr Eidal, Minister of Universities, Science and Technology, Minister of the Treasury, Budget and Economic Planning, Minister for Institutional Reforms, Minister of the Treasury, Budget and Economic Planning, Y Gweinidog Cyllid, Gweinidog y Trysorlys, Gweinidog y Trysorlys, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Fflorens
  • Prifysgol La Sapienza
  • Prifysgol Perugia Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Sosialaidd yr Eidal, Plaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodDiana Vincenzi Amato Edit this on Wikidata
Gwobr/auMarchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, honorary doctor of the University of Neuchâtel, Marchog Croes Fawr Urdd San Fihangel a San Siôr, Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ef yn Nhwrin, Piemonte, Teyrnas yr Eidal, i deulu o dras Sisilaidd, a chafodd ei fagu yn rhanbarth Toscana. Derbyniodd ei radd yn y gyfraith o'r Scuola Normale Superiore yn Pisa ym 1960. Enillodd ysgoloriaeth Fulbright i astudio yn Unol Daleithiau America, a derbyniodd ei radd meistr yn y gyfraith gymharol o Ysgol Gyfraith Columbia ym 1963. Gweithiodd yn academydd ym mhrifysgolion Modena, Perugia, a Fflorens, a fe'i penodwyd yn athro yn y gyfraith gyfansoddiadol Eidalaidd a chymharol ym Mhrifysgol Rhufain La Sapienza o 1975 i 1997. Mae wedi ysgrifennu sawl llyfr ar bynciau cyfraith gyfansoddiadol a'r gyfraith ryngwladol.

Ymaelododd Amato â Phlaid Sosialaidd yr Eidal ym 1958, a fe'i etholwyd i Siambr y Dirprwyon yn gyntaf ym 1983.[1] Gwasanaethodd yn Ddirprwy Brif Weinidog i Giovanni Goria o Orffennaf 1987 i Ebrill 1988, ac yn Weinidog y Trysorlys yn llywodraethau Goria a Ciriaco De Mita o Orffennaf 1987 i Orffennaf 1989.

Ymddiswyddodd y Prif Weinidog Giulio Andreotti ar 28 Mehefin 1992, ac fe'i olynwyd gan Amato, yn bennaeth ar lywodraeth glymblaid y Quadripartito: Democratiaeth Gristnogol, y Blaid Sosialaidd, y Blaid Sosialaidd Democrataidd, a'r Blaid Ryddfrydol. Wynebai lu o sgandalau gwleidyddol a chyhuddiadau o lygredigaeth yn erbyn cannoedd o wleidyddion a dynion busnes, ac Amato oedd un o'r ychydig o wleidyddion amlwg i beidio â chael ei gyhuddo o drosedd. Dyma oedd cyfnod cythryblus yn hanes gwleidyddol yr Eidal: diddymwyd nifer o'r prif bleidiau, a chynhaliwyd sawl refferendwm i ddiwygio'r system etholiadol. Ymddiswyddodd Amato ar 22 Ebrill 1993, ac ildiodd y brifweinidogaeth wythnos yn ddiweddarach i Carlo Azeglio Ciampi, technocrat a benodwyd gan yr Arlywydd Oscar Luigi Scalfaro i roi'r drefn newydd ar waith. Dywed taw dyma oedd diwedd "y Weriniaeth Gyntaf" yn hanes yr Eidal wedi'r Ail Ryfel Byd, cyfnod o lygredigaeth a thor-cyfraith cyfundrefnol, trais a therfysgaeth, ac economi ansefydlog, a dechrau'r "Ail Weriniaeth".

Trodd Amato yn wleidydd annibynnol ym 1994. Ymaelododd â Democratiaid y Chwith (yn ddiweddarach, y Blaid Ddemocrataidd) ym 1998. Gwasanaethodd eto yn Weinidog y Trysorlys o 1999 i 2000, ac yn Brif Weinidog o 2000 i 2001. Penodwyd yn is-lywydd y Gynhadledd Ewropeaidd yn 2001–03, gyda'r nod o lunio cyfansoddiad ar gyfer yr Undeb Ewropeaidd. Ei swydd olaf yn llywodraeth yr Eidal oedd Gweinidog Cartref o 2006 i 2008, yn llywodraeth Romano Prodi.

Cyfeiriadau golygu

  1. John C. Fredriksen, Biographical Dictionary of Modern World Leaders, 1992 to the Present (Efrog Newydd: Facts On File, 2003), tt. 17–18.