Sisili

ynys a rhanbarth yr Eidal

Ynys yn y Môr Canoldir a rhanbarth yr Eidal yw Sisili (hefyd Sisilia) (Sisilieg: Sicìlia; Eidaleg: Sicilia). Palermo yw'r brifddinas.

Sisili
Mathrhanbarth ymreolaethol gan statud arbennig, ardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
PrifddinasPalermo Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,983,478 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 15 Mai 1946 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRenato Schifani Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd25,711 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,340 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau37.599958°N 14.015378°E Edit this on Wikidata
IT-82 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth Sicily Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholCynulliad Rhanbarthol Sicili Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
arlywydd Sicili Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRenato Schifani Edit this on Wikidata
Map

Sisili yw'r ynys fwyaf yn y Môr Canoldir. Ei harwynebedd tir, gan gynnwys y mân ynysoedd, yw 25,710 km² (9927 milltir²). Mae'r ynys yn fynyddig iawn, gan godi i 1800m ym Mynydd Etna. Mae Culfor Messina yn gorwedd rhwng yr ynys a'r tir mawr.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y rhanbarth boblogaeth o 5,002,904.[1]

Lleoliad Sisili yn yr Eidal

Rhennir y rhanbarth yn naw talaith a enwir ar ôl eu canolfannau gweinyddol, sef:

Taleithiau Sisili

Hanes golygu

Ymsefydlai'r Groegiaid ar yr ynys o'r 8fed ganrif CC ymlaen. Meddianwyd rhan o'r ynys gan y Carthaginiaid yn fuan ar ôl hynny a bu cryn ymrafael rhwng y ddwy blaid am rai canrifoedd. Fe'i meddianwyd gan y Rhufeiniaid yn ail hanner y drydedd ganrif CC ac erbyn 211 CC roedd yn dalaith Rufeinig.

Goresgynnwyd yr ynys gan yr Arabiaid yn y 9g a datblygodd diwylliant hybrid unigryw ar yr ynys. Yn 1060 cyrhaeddodd y Normaniaid a meddianwyd yr ynys ganddynt yn eu tro. Yn 1266 coronwyd Siarl I, brenin Napoli a Sisili yn frenin Angevinaidd cyntaf Sisili. Cwnwerwyd yr ynys gan deyrnas Aragon yn 1284 yn sgîl Cyflafan y Gosber Sisiliaidd.

Creuwyd Teyrnas y Ddwy Sisili yn 1815 gan Ferdinand I o Awstria a Hwngari. Cipiodd Garibaldi yr ynys yn 1860 ac unwyd Sisili â gweddill yr Eidal. Am flynyddoedd bu hanes yr ynys yn ansefydlog a llawn tensiynau cymdeithasol oherwydd cyflwr economaidd y wlad, tlodi a grym y Maffia a cheidwadwyr eglwysig. Ymfudodd nifer fawr o Sisiliaid tlawd i'r Unol Daleithiau oherwydd hynny.

Heddiw, mae Sisili, gyda'r ynysoedd llai oddi amgylch (Ynysoedd Égadi ac Ynysoedd Lipari yw'r ddau grŵp mwyaf) yn rhanbarth hunanlywodraethol yn yr Eidal.

Economi golygu

Erbyn heddiw mae economi yr ynys yn bur ffynnianus. Un o'r diwydiannau mwyaf yw twristiaeth.

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 23 Rhagfyr 2020

Dolen allanol golygu