Glamorgan Gazette

Papur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Sefydlwyd yn 1894.

Mae'r Glamorgan Gazette yn bapur newydd wythnosol ar gyfer ardal Bro Morgannwg gan gynnwys Pen-y-bont ar Ogwr. Fe'i sefydlwyd yn 1894 ac mae'n dal i gyhoeddi hyd heddiw. Perchennog y papur newydd yn 2011 oedd Media Wales Cyf. Teitlau cysylltiol y papur yw; Bridgend and Neath Chronicle and County of Glamorgan Advertiser (1888); a'r Central Glamorgan Gazette and General, Commercial and Agricultural Advertiser (1866).[1]

Glamorgan Gazette
Enghraifft o'r canlynolpapur newydd, Papurau Newydd Cymreig Ar-lein Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1894 Edit this on Wikidata
RhanbarthBro Morgannwg, Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Tudalen 3 o'r Glamorgan Gazette - 26 Medi 1919

Cyhoeddwyd ac argraffwyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr gan John Evans yn 1894, gan Cwmni Cyfyngedig Argraffu a Chyhoeddi Canolbarth Morgannwg rhwng ca.1900 a ca.1951, gan Glamorgan Gazette Cyf rhwng ca.1951 a 1970, gan Celtic Press Cyf yn 1971, a gan Media Wales Cyf yn 2011.[2]

Mae rhifynau'r papur o'i sefydlu yn 1894 hyd at 1919 (614 rhifyn) wedi eu digido ac ar wefan Papurau Newydd Cymru Ar-lein.

Ceir hefyd rhifynau wedi eu digido ar wefan British Newspaper Archive gan gynnwys y blynyddoedd canlynol (noder bod bylchau); 1894-1895, 1897-1898, 1900-1984, 1987-1993.[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Glamorgan Gazette". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.
  2. "Glamorgan Gazette". Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.
  3. "Glamorgan Gazette". British Newspaper Archive. Cyrchwyd 1 Tachwedd 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am bapur newydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato