Digido

Y broses o drosi ffeiliau (delwedd, sain ayyb) neu ddogfennau unigol o fformat analog i fformat digido

Mae digido[1] yn disgrifio trosi ffeiliau (delwedd, testun, sain ayyb) neu ddogfennau unigol, o fformat analog i fformat ddigidol i greu dogfen chwiladwy drwy ei sganio ac adnabod testun.[2] P'un a yw'r broses yn golygu troi hen record finyl yn MP3 neu'n sganio dogfen i'w hanfon fel pdf, digido yw'r broses. Mae'n hanfodol bellach ym maes archifo a rhoi'r deunydd ar y rhyngrwyd.

Digido
Enghraifft o'r canlynolproses peirianyddol, Technoleg gwybodaeth Edit this on Wikidata
peiriant digido llyfrau, 2018

Digido Cenedlaethol golygu

Mae sawl sefydliad Gymreig wedi ymgymryd â phrosiectau digido mawrion gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu iddynt ddigido 15 miliwn erthygl o bapurau newyddion Cymru o 1804 hyd at 1919 ar eu gwefan, ac mae'r broses yn parhau. Gellir gweld ffrwyth y gwaith yma ar Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Ceir hefyd yno is-wefan Cylchgronau Cymru Ar-lein a hefyd mapiau degwm, ffotograffau a darluniau a sawl archif arall.

Corff arall bu'n digido casgliadau Cymreig yw Casgliad y Werin Cymru a sefydlwyd yn 2010 ac sy'n bartneriaeth rhwng Amgueddfa Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Chomisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Gall aelodau'r cyhoedd gyfrannu eu casgliadau personol i'r casgliad ar-lein.[3]

Safonni'r term golygu

Arddelir y term digideiddio gan rai, ond, bellach, digido yw'r term safonnol. Ceir y cofnod cydnabyddedig gynharaf o'r gair 'digido' yn 1986 yng nghyhoeddiad Termau Cyfrifidureg.[4]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "digido". Termau Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
  2. "digido". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
  3. "Amdanom ni". Casgliad y Werin. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.
  4. "digido". Geiriadur Prifysgol Cymru. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2023.

Dolenni allanol golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am gyfrifiaduron neu gyfrifiadureg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.