Stepdir
Term daearyddol yw stepdir (neu steppe (Rwsieg: степь [step'], glaswelltir) sy'n ardal ddi-goed, agored. Gall fod mewn rhannau'n ddiffeithwch, neu'n welltog, neu gyda llwyni bychan arno. Defnyddir y term hefyd i ddynodi math o hinsawdd ardaloedd sy'n rhy sych i dyfu coed, ond yn rhy llaith i fod yn anialwch. Fel arfer mae'r pridd o fath chernozem (Groeg am "bridd du").
Y mwyaf nodedig yw Stepdir Ewrasia, sef llwybr o ddiwylliannau, ieithoedd, datblygiad y ceffyl dof a'r olwyn. Yn yr Americas, gelwir y stepdir yn prairie.
Ceir stepdiroedd dros y byd, gan gynnwys y canlynol:
-
Stepdir Ewrasia; Eurasian Steppe
-
Lleoliad Stepdir Ewrasia (mewn lliw ).
-
Stepdir yr Wcrain
-
Stepdir Casachstan
-
Stepdir Mongolia