Glanmor Griffiths
Gweinyddwr ym myd rygbi oedd Glanmor Griffiths (21 Rhagfyr 1939 – 26 Medi 2023).[1] Yn ei dro bu'n drysorydd, cadeirydd a llywydd Undeb Rygbi Cymru dros gyfnod o 22 mlynedd. Yn yr 1990au arweiniodd y gwaith o godi Stadiwm y Mileniwm, a hynny mewn pryd i gynnal Cwpan Rygbi'r Byd yn 1999.[2]
Glanmor Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 21 Rhagfyr 1939 Pen-y-bont ar Ogwr |
Bu farw | 26 Medi 2023 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | banciwr, gweinyddwr chwaraeon |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Glanmor ym Mhen-y-bont ar Ogwr y trydydd o saith plentyn, a roedd ei deulu yn byw i ddechrau yn Melin Ifan Ddu. Aeth i Ysgol Ramadeg Ogwr ond gadawodd yn 16 mlwydd oed i ymuno a Banc y Midland. Aeth ei yrfa fancio ag ef i Paddock Wood (Caint), Tonypandy, Llandochau, Pen-y-bont ar Ogwr ac yna Ascot pan oedd yn gweithio yn Llundain. Wedi cyfarfod ei ddarpar-wraig Mair, mewn dawns ym Mhorthawl, priododd y cwpl yn 1964.
Pan gafodd ei wraig ganser y fron yn yr 1980au cynnar, dychwelodd y teulu i dde Cymru, a daeth Glanmor yn reolwr banc yng Nghaerdydd ac yna Cyfarwyddwr Corfforaethol (Cymru) Banc y Midland. Yn 50 mlwydd oed ymddeolodd yn gynnar ac yn 1985 rhoddodd ei holl sylw at rygbi Cymreig pan ddaeth yn drysorydd Undeb Rygbi Cymru gan ddilyn Ken Harris.[1]
Undeb Rygbi Cymru
golyguYmddiswyddodd fel trysorydd URC ar 3 Rhagfyr 1992 ar ôl ffrae gyda'r ysgrifennydd, ond erbyn mis Ebrill 1993 roedd e wedi ei ail-benodi gan y clybiau mewn Cyfarfod Cyffredinol Arbennig.
Cychwynodd trafodaeth am ddiwygio Parc yr Arfau yn 1994 a roedd Glanmor yn gyfrifol am arwain y gwaith o godi Stadiwm y Mileniwm mewn pryd i gynnal Cwpan Rygbi'r Byd yng Nghymru yn 1999. Nid oedd yn bosib dod i gytundeb gyda Clwb Athletau Caerdydd o ran dymchwel stand ym Mharc yr Arfau blaenorol. Felly roedd yn rhaid adeiladu o gwmpas darn o'r hen stadiwm, bwlch sydd i'w weld yn y stadiwm newydd hyd heddiw - bedyddiwyd hyn yn 'Glanmor's Gap'.[3]
Llwyddodd Glanmor i drefnu contract adeiladu'r stadiwm newydd gyda chwmni John Laing plc am phris penodol ac uchafswm o £130m. Aeth cwmni Laing i ddyledion yn ddiweddarach oherwydd eu bod wedi tan-brisio y prosiect.[2]
Dilynodd Vernon Pugh fel Cadeirydd URC gan ddal y swydd rhwng 1996 a 2003, ac roedd hefyd yn gadeirydd Millennium Stadium plc hyd at 2003. Cynrychiolodd URC ar y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol, pwyllgorau y Pum Gwlad a Pedwar Undeb Cartref ac roedd yn aelod o fwrdd Rugby World Cup Ltd.
Roedd yn ymddiriedolwr Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru rhwng 1985 a 2003. Daeth yn 48fed llywydd URC rhwng Mai a Hydref 2007 yn dilyn marwolaeth Keith Rowlands.
Bywyd personol
golyguRoedd yn briod a Mair a cawsant pedwar o blant - Stephen, Kathryn, Susan a Judith.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 "RIP former WRU dignitary Glanmor Griffiths - Welsh Rugby Union". Welsh Rugby Union | Wales & Regions (yn Saesneg). 2023-09-26. Cyrchwyd 2023-09-26.
- ↑ 2.0 2.1 "Cyn-bennaeth URC, Glanmor Griffiths, wedi marw yn 83 oed". BBC Cymru Fyw. 2023-09-26. Cyrchwyd 2023-09-26.
- ↑ Southcombe, Matthew (2019-06-25). "The story of how the Principality Stadium was built". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-09-27.