Math o de yw Glengettie, a grëwyd ym 1952 i'w farchnata yng Nghymru yn benodol; yn ôl y cwmni sy'n ei gynhyrchu, mae'n arbennig o addas ar gyfer dŵr meddal Cymru. Mae'r ysgrifen ar y bocs yn ddwyieithog ers blynyddoedd, rhywbeth a oedd yn anarferol iawn ar un adeg. Yn ystod y nawdegau, câi'r brand ei hysbysebu yn Gymraeg ar S4C yn ogystal.

Mae Glengettie yn boblogaidd ymysg pobl o Gymru a gwledydd eraill Prydain sy'n byw dramor. Mae ar werth ar sawl gwefan sy'n gwerthu bwyd o Brydain i weddill y byd.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am de. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.