Glenys Mair Lloyd
awdures ac athrawes (1941–2017)
(Ailgyfeiriad o Glenys Lloyd)
Awdures ac athrawes oedd Glenys Mair Lloyd (1941 – 15 Tachwedd 2017).[1][2]
Glenys Mair Lloyd | |
---|---|
Ganwyd | 1941 |
Bu farw | 15 Tachwedd 2017 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | llenor, athro |
Bywgraffiad
golyguMagwyd Glenys Bambrough ym Mhowys. Roedd yn athrawes Saesneg a weithiodd yng Nghymru a Lloegr. Ymddeolodd yn 1990 a symudodd i ardal Bangor, yn Llandygái a Porth Penrhyn.
Daeth yn agos at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i nofel, Heldir y Diafol.
Roedd hefyd yn awdur rhaglenni dogfen, gan weithio gyda'r cyfarwyddwr Wil Aaron a Ffilmiau'r Nant ar ddogfennau a enillodd wobrau rhyngwladol.[3]
Ei phartner oedd Will Humphreys a roedd ganddi ddau o blant. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei chartref ym Mhorth Penrhyn yn 76 oed.
Llyfryddiaeth
golygu- Heldir y Diafol (1996)
- Bargen y Brenin (2000)
- Rhyfel Sam (2001)
- Castell y Blaidd (2004)
- Pirate of Penrhyn (2015)
Rhaglenni dogfen
golygu- Yn y Pacrew - taith olaf y Karluk (2006) - Ffilm ddogfen gyda Wil Aaron/David Gullason (Canada)/Cwmni Da/History TV (Canada), S4C Rhyngwladol), enillodd y brif wobr, 'Ffim Orau Gwyl Jules Verne', ym Mharis gyda'r Tywysog Albert o Fonaco a'r actor Christopher Lee ('Dracula') yn feirniaid.
- Ar Drywydd y Dywysoges Lilian o Sweden (2000) - Ffilm ddogfen gyda Wil Aaron, Ffilmiau'r Nant.
- The Amazing Life of Princess Lillian (2013) - cyfweliad ar Radio 4 [4]
- Kingdom of the Sun (2006) - Drama ddogfen ar gyfer BBC Radio Wales - hanes Eluned Morgan, Patagonia, a'r Indiaid. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
- An. Honourable Pirate (2007) - Rhaglen ddogfen am hanes Pirs Gruffydd, ar gyfer BBC Radio Wales. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
- 1918 (2008) - Drama ddogfen am drychineb RMS Leinster, BBC Radio Cymru. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Glenys Mair Lloyd wedi marw , Golwg360, 17 Tachwedd 2017.
- ↑ LLOYD GLENYS : Obituary. bmdsonline.co.uk (18 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2017.
- ↑ Holi Glenys Mair Lloyd. BBC Cymru. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2017.
- ↑ The Amazing Life of Princess Lillian. bbc.co.uk (12 Mawrth 2013). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2017.