Porth Penrhyn

harbwr

Mae Porth Penrhyn yn borthladd bychan fymryn i'r dwyrain o ddinas Bangor yng Ngwynedd. Mae Afon Cegin yn llifo i Afon Menai yma, a gelwir yr ardal yn Abercegin.

Porth Penrhyn
Mathharbwr Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd, Llandygái Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.2347°N 4.1113°W Edit this on Wikidata
Map
Gweler hefyd Penrhyn (gwahaniaethu).

Yn y 19g roedd Porth Penrhyn yn borthladd pwysig. Oddi yma yr allforid llechi o Chwarel y Penrhyn, y chwarel lechi fwyaf yn y byd bryd hynny. Cofnodir allforio o Borth Penrhyn o 1713 pan yrrwyd 14 llwyth llong, cyfanswm o 415,000 o lechi, i ddinas Dulyn. Yn 1720 gyrrwyd 8 llwyth i Ddulyn, dau i Drogheda (20,000 o lechi) ac un i Belfast (35,000 o lechi), ac yn 1722 80,000 o lechi i Dunkirk. Tyfodd y porthladd wedi i Richard Pennant ddod yn berchennog stad y Penrhyn a phenodi Benjamin Wyatt yn asiant yn 1786. Adeiladwyd cei o gerrig yn 1790 a lein tram i'r chwarel yn 1798. Yn 1801 gosodwyd lein i drên bach, ac yn ddiweddarach adeiladwyd Rheilffordd Chwarel y Penrhyn yn dilyn trac gwahanol. Cafodd y porthladd ei ymestyn yn 1829-30 ac eto yn 1855.

Defnyddir y porthladd yn awr gan gychod pleser, cychod pysgota a llongau nwyddau bychain hyd at tua 3,000 o dunelli. Mae cynlluniau ar y gweill i'w ymestyn ar gyfer llongau mwy.

Dolenni allanol

golygu