Gwobr Goffa Daniel Owen

gwobr a gyflwynir yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y nofel Gymraeg wreiddiol orau

Un o brif wobrau Eisteddfod Genedlaethol Cymru yw Gwobr Goffa Daniel Owen. Mae'r seremoni wobrwyo yn digwydd ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod. Rhoddir gwobr o £5000 am nofel yn Gymraeg sydd heb ei chyhoeddi o'r blaen.

Gwobr Goffa Daniel Owen
Enghraifft o'r canlynolgwobr Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Sefydlwyd y wobr yn 1978 ac fe'i enwyd ar ôl y nofelydd Cymraeg nodedig Daniel Owen (1836-1895). Y wobr yn y flwyddyn gyntaf oedd £500, yn rhoddedig gan HTV Cymru. Yn y blynyddoedd cynnar nid oedd y wobr yn cael seremoni ar lwyfan y Pafiliwn ond fe gychwynwyd wneud hynny yn 1999, er nad yw'n seremoni orseddol lawn. Yn 2000, cododd y wobr ariannol i £5000, gan roi fwy o statws ac amlygrwydd i'r gystadleuaeth.[1]

Rhestr enillwyr golygu

Blwyddyn Eisteddfod Buddugwr Ffugenw Testun
1978 Caerdydd Alun Jones "Cymydmaen" Hirfaen (Ac yna Clywodd Sŵn y Môr)
1979 Caernarfon Beti Hughes "Penymorfa" Pontio'r Pellter
1980 Dyffryn Lliw Aled Islwyn "O'r Arch" Sarah Arall
1981 Maldwyn Neb yn deilwng
1982 Abertawe Neb yn deilwng
1983 Môn Neb yn deilwng
1984 Llanbedr Pont Steffan Richard Cyril Hughes "Goronw ap Maredudd" Castell Cyfaddawd
1985 Y Rhyl Aled Islwyn Cadw’r Chwedlau’n Fyw
1986 Abergwaun Robat Gruffudd Y Llosgi
1987 Porthmadog Rhydwen Williams Amser i Wylo
1988 Casnewydd Neb yn cystadlu
1989 Llanrwst Roger Ioan Stephens Jones "Rhos Ddu" O Wlad Fach...!
1990 Rhymni Geraint V. Jones "Owain Tudur" Yn y Gwaed
1991 Yr Wyddgrug Atal y wobr
1992 Aberystwyth Atal y wobr
1993 Llanelwedd Endaf Jones "Jôs Bach y Penci" Mewn Cornel Fechan Fach
1994 Castell Nedd Eirug Wyn "Lewys" Smôc Gron Bach
1995 Abergele Beryl Stafford Williams "Calennig" Mellt yn Taro
1996 Bro Dinefwr Atal y wobr
1997 Meirion Gwyneth Carey "Pandora" Mwg
1998 Bro Ogwr Geraint V. Jones "Urien" Semtecs
1999 Môn Ann Pierce Jones "Pry Cop" Fflamio
2000 Llanelli Geraint V. Jones "Ifan" Cur y Nos
2001 Dinbych Neb yn deilwng
2002 Tyddewi Eirug Wyn "Seimon" Bitsh!
2003 Maldwyn Elfyn Pritchard "Pen Ffridd" Pan Ddaw'r Dydd...?
2004 Casnewydd Robin Llywelyn "Wil Chips" Un Diwrnod yn yr Eisteddfod
2005 Eryri Siân Eirian Rees Davies "Cae Cors" I Fyd Sy Well
2006 Abertawe Gwen Pritchard Jones "Ebolion" Dygwyl Eneidiau
2007 Sir y Fflint Tony Bianchi "Chwilen" Pryfeta
2008 Caerdydd Ifan Morgan Jones "Y Pobydd" Igam Ogam
2009 Meirion Fflur Dafydd "Palindrom" Y Llyfrgell
2010 Blaenau Gwent Grace Roberts "Spot y Ci" Adenydd Glöyn Byw
2011 Wrecsam Daniel Davies "Blod" Tair Rheol Anhrefn
2012 Bro Morgannwg Robat Gruffudd "Rhys" Afallon
2013 Sir Ddinbych Bet Jones "Seiriol Wyn" Craciau
2014 Sir Gaerfyrddin Lleucu Roberts "Botwm Crys" Rhwng Edafedd
2015 Maldwyn Mari Lisa "Abernodwydd" Veritas
2016 Sir Fynwy Guto Dafydd "246093740" Ymbelydredd
2017 Môn Neb yn deilwng
2018 Caerdydd Mari Williams[2] "Ysbryd yr Oes" Doe a Heddiw (ailenwyd Ysbryd yr Oes)
2019 Sir Conwy Guto Dafydd[3] "Arglwydd Diddymdra" Carafanio
2021 AmGen Lleucu Roberts[4] "Ceridwen" Hannah-Jane
2022 Ceredigion Meinir Pierce Jones[5] Capten
2023 Llŷn ac Eifionydd Alun Ffred Jones[6] Gerddi Gleision Gwynt y Dwyrain

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu