Glenys Mair Lloyd

awdures ac athrawes (1941–2017)

Awdures ac athrawes oedd Glenys Mair Lloyd (194115 Tachwedd 2017).[1][2]

Glenys Mair Lloyd
Ganwyd1941 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Tachwedd 2017 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, athro Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Magwyd Glenys Bambrough ym Mhowys. Roedd yn athrawes Saesneg a weithiodd yng Nghymru a Lloegr. Ymddeolodd yn 1990 a symudodd i ardal Bangor, yn Llandygái a Porth Penrhyn.

Daeth yn agos at ennill Gwobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol gyda’i nofel, Heldir y Diafol.

Roedd hefyd yn awdur rhaglenni dogfen, gan weithio gyda'r cyfarwyddwr Wil Aaron a Ffilmiau'r Nant ar ddogfennau a enillodd wobrau rhyngwladol.[3]

Ei phartner oedd Will Humphreys a roedd ganddi ddau o blant. Bu farw o drawiad ar y galon yn ei chartref ym Mhorth Penrhyn yn 76 oed.

Llyfryddiaeth golygu

Rhaglenni dogfen golygu

  • Yn y Pacrew - taith olaf y Karluk (2006) - Ffilm ddogfen gyda Wil Aaron/David Gullason (Canada)/Cwmni Da/History TV (Canada), S4C Rhyngwladol), enillodd y brif wobr, 'Ffim Orau Gwyl Jules Verne', ym Mharis gyda'r Tywysog Albert o Fonaco a'r actor Christopher Lee ('Dracula') yn feirniaid.
  • Ar Drywydd y Dywysoges Lilian o Sweden (2000) - Ffilm ddogfen gyda Wil Aaron, Ffilmiau'r Nant.
  • The Amazing Life of Princess Lillian (2013) - cyfweliad ar Radio 4 [4]
  • Kingdom of the Sun (2006) - Drama ddogfen ar gyfer BBC Radio Wales - hanes Eluned Morgan, Patagonia, a'r Indiaid. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
  • An. Honourable Pirate (2007) - Rhaglen ddogfen am hanes Pirs Gruffydd, ar gyfer BBC Radio Wales. Cynhyrchydd - Aled P Jones.
  • 1918 (2008) - Drama ddogfen am drychineb RMS Leinster, BBC Radio Cymru. Cynhyrchydd - Aled P Jones.

Cyfeiriadau golygu

  1. Glenys Mair Lloyd wedi marw , Golwg360, 17 Tachwedd 2017.
  2.  LLOYD GLENYS : Obituary. bmdsonline.co.uk (18 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2017.
  3.  Holi Glenys Mair Lloyd. BBC Cymru. Adalwyd ar 17 Tachwedd 2017.
  4.  The Amazing Life of Princess Lillian. bbc.co.uk (12 Mawrth 2013). Adalwyd ar 18 Tachwedd 2017.