Diplomydd o Ganada oedd Glyn Berry (14 Mehefin 194615 Ionawr 2006). Bu farw mewn ffrwydrad a achoswyd gan fom mewn car yn agos i Kandahar, Affganistan. Lladdwyd dau arall yn yr un ymosodiad a deg o bobl yn cael eu hanafu.

Glyn Berry
Ganwyd14 Mehefin 1946 Edit this on Wikidata
y Barri Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ionawr 2006 Edit this on Wikidata
Kandahar Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd Edit this on Wikidata

Cafodd ei eni a'i fagu yn y Barri, cyn symud i Ganada yn ei ugeiniau. Ymunodd ag Adran Materion Tramor Canada yn 1977. Roedd wedi gwasanaethu fel diplomydd Canadaidd yn Oslo, Havana, Llundain, Islamabad ac yn y Cenhedloedd Unedig yn Efrog Newydd. Yn Affganistan roedd wedi cael ei benodi fel cyfarwyddwr gwleidyddol i'r tîm ailadeiladu taleithiol ar gyfer Adran Materion Tramor Canada yn ardal Kandahar. Fe'i claddwyd yng Nghymru.