Y Gnoll
cyn-blasty ger Castell Nedd
(Ailgyfeiriad o Gnoll)
Plasdy ger Castell-nedd yn ne Cymru yw Y Gnoll. Daw ei enw o'r bryn coediog y tu ôl iddo. Bu'n sedd deuluol y teulu Evans o Gastell-nedd o'r 17g hyd y 19g.
Math | castell, plasty |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.660501°N 3.793554°W |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
- Erthygl am y plasdy yw hwn. Gweler hefyd Parc Gwledig y Gnoll. Am yr hen stadiwn rygbi gweler Y Gweilch.
Priododd y diwydiannwr Syr Humphrey Mackworth â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll, ar ddiwedd yr 17g ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Codwyd y prif dŷ gan eu disgynydd gan Syr Herbert Mackworth yn 1776-8 ; y pensaer oedd John Johnson o Gaerlŷr. Adeilad Sioraidd oedd hwn. Cynlluniwyd gerddi helaeth yn y cyfnod yma hefyd, yn cynnwys terasau, lawntiau a ffynhonnau ; mae'r cyfan yn rhan o Barc Wledig y Gnoll heddiw.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Taith gerdded o gwmpas Parc y Gnoll Archifwyd 2008-10-16 yn y Peiriant Wayback