Humphrey Mackworth
Sais o Swydd Amwythig a ymgartrefodd yn ne Cymru ac a ddaeth yn un o brif ddiwydianwyr y wlad ar ddechrau'r 18g oedd Syr Humphrey Mackworth (1657 - 1727). Fe'i cofir hefyd fel un o sylfaenwyr llëyg y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol.
Humphrey Mackworth | |
---|---|
Ganwyd | Ionawr 1657 Swydd Amwythig |
Bu farw | 25 Awst 1727 |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Aelod o Senedd 1af Prydain Fawr, Aelod o 3ydd Senedd Prydain Fawr, Aelod o Senedd 1701, Aelod o Senedd 1702-05, Aelod o Senedd 1705-07 |
Tad | Thomas Mackworth |
Mam | Anne Bulkeley |
Priod | Mary Evans |
Plant | Herbert Mackworth, William Mackworth Praed, Kingsmill Evans Mackworth |
Gwobr/au | Marchog Faglor |
Priododd â Mary, merch Syr Herbert Evans o'r Gnoll ger Castell-nedd ac etifeddodd ei wraig llawer o'r ystâd. Bu'n arloeswr y diwydiant glo yn Ne Cymru a bu ganddo ran flaenllaw yn sefydlu'r diwydiant copr yno hefyd. Cafodd ystad Gogerddan, Ceredigion yn nes ymlaen a dechreuodd fwyngloddio yn y sir honno yn 1698 : un o fentrau ei gwmni y Mines Adventurers oedd y gwaith copr yn Ffwrnais Dyfi.[1]
Fe'i etholwyd yn Aelod Seneddol Ceidwadol dros yr hen Sir Aberteifi yn 1701.
Roedd yn ddyn busnes caled sydd wedi cael ei gyhuddo o arfer dulliau llai na theg - bu rhaid iddo ymddiswyddo o'r Mines Adventurers yn 1708 ar ôl cael cyhuddiad o dwyll yn ei erbyn[2] - ac eto ar yr un pryd roedd yn barod iawn i roi i elusennau, gan gynnwys y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol. Ysgrifennodd sawl llyfr crefyddol hefyd.