God Defend New Zealand
Un o ddwy anthem genedlaethol Seland Newydd yw God Defend New Zealand ("Amddiffyned Duw Seland Newydd"). God Save the Queen yw'r llall.
Enghraifft o'r canlynol | anthem genedlaethol |
---|---|
Gwlad | Seland Newydd |
Iaith | Saesneg Newydd Seland, Maori |
Dyddiad cyhoeddi | 1870s |
Dechrau/Sefydlu | 1977 |
Genre | barddoniaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Gwladwriaeth | Seland Newydd |
Cyfansoddwr | John Joseph Woods |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ysgrifennwyd y geiriau Saesneg yn yr 1870au gan Thomas Bracken (1843–1898), bardd a gwleidydd o Dunedin.[1] Trefnwyd cystadleuaeth i ddarparu alaw iddo ym 1876. Enillwyd honno gan y cerddor John Joseph Woods (1849–1934). Ysgrifennwyd fersiwn â geiriau o iaith Maori gan Thomas Henry Smith (1824–1907) ym 1878. Yn y blynyddoedd i ddod daeth y gân yn fwyfwy poblogaidd. Erbyn y 1970au roedd mudiad i wneud God Defend New Zealand yn anthem genedlaethol y wlad yn lle God Save the Queen. Yn y diwedd, ym 1977, rhoddwyd staws anthem genedlaethol i'r ddau ohonyn nhw ar y cyd. Ers diwedd y 1990au, yr arfer arferol wrth berfformio God Defend New Zealand yn gyhoeddus yw perfformio pennill cyntaf ddwywaith, yn gyntaf ym Maori ac wedi hynny yn Saesneg.
Geiriau
golyguSaesneg | Cymraeg[2] |
---|---|
E Ihowā Atua, |
O ein Arglwydd Jehofa |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "National hymn, God defend New Zealand. 1876; ID: GNZMS 6], Grey New Zealand manuscripts". Cyngor Auckland. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-01-11. Cyrchwyd 2022-01-09.
- ↑ "New Zealand National Anthem", Lyrics Translate; adalwyd 7 Ionawr 2022