Goleudy Trwyn Du
goleudy rhestredig Gradd II* yn Llangoed
Goleudy yn Ynys Môn yw Goleudy Trwyn Du. Saif rhwng penrhyn Trwyn Du, ger Penmon, ac Ynys Seiriol.
Math | goleudy |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penmon |
Sir | Llangoed |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 0 metr |
Cyfesurynnau | 53.3129°N 4.04068°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* |
Manylion | |
Deunydd | carreg |
Adeiladwyd y goleudy ar graig rhwng 1835 a 1836 gan Trinity House. Costiodd £11,589 i’w godi. Uchder y goleudy yw 29m ac fe'i cynlluniwyd gan James Walker rhwng 1835 a 1838. Hwn oedd y goleudy cyntaf iddo'i gynllunio, ac aeth ati i gynllunio nifer o rai mwy o faint yn ddiweddarach. Yn 1922, trowyd y goleudy’n un awtomatig a ddefnyddiai asetylen, ond fe’i newidiwyd i bŵer solar ym 1996.[1]Mae'r Goleudy yn 29m o daldra ac fe'i dyluniwyd gan James Walker a'i adeiladu ym 1835-1838. Hwn oedd ei dwr cyntaf i olchi môr.