Llangoed

gymuned yn y sir Gymreig Môn, yng Nghymru, a leolir ar arfordir gogledd orllewin y sir

Pentref a chymuned yn ne-ddwyrain Ynys Môn yw Llangoed ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae ganddi ysgol, neuadd bentref a siop. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn rhan o gwmwd Dindaethwy, cantref Menai.

Llangoed
Eglwys Sant St Cawrdaf Church (misspelt as St Cawdraf), Llangoed, Ynys Môn, Cymru, North Wales 01.JPG
Mathcymuned, ward etholiadol, pentref Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,229 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 (ward) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd1,057.76 ha Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.30204°N 4.074628°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000025 Edit this on Wikidata
Cod OSSH6184680351 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Am y pentrefan ym Mhowys gweler Llangoed, Powys.

Mae Afon Lleiniog, sy'n llifo trwy'r pentref o dreflan Glanrafon i'r môr, yn llifo heibio i adfeilion Castell Aberlleiniog, castell mwnt a beili sy'n dyddio o'r 11g.

Mae'r pentref yn cynnal twrnament Rygbi 7 bob ochr bob blwyddyn. Dechreuir ei gôd post gyda LL58 8.

Ceir clystyrau cytiau hynafol gerllaw.

Eglwys Sant Cawrdaf, Llangoed

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llangoed (pob oed) (1,229)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llangoed) (585)
  
48.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llangoed) (700)
  
57%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llangoed) (263)
  
45.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
5%

CyfeiriadauGolygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato