Goleudy Ynys Lawd

goleudy rhestredig Gradd II yn Nhrearddur

Mae Goleudy Ynys Lawd yn sefyll ar gopa Ynys Lawd, ynys bach yn ymyl Ynys Gybi.

Goleudy Ynys Lawd
Mathgoleudy Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1809 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTrearddur Edit this on Wikidata
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr34 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3067°N 4.6994°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd II, Henebion Cenedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Manylion
Deunyddcarreg Edit this on Wikidata

Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809. Cynlluniwyd y goleudy presennol gan y pensaer Joseph Nelson a chafodd ei godi gan y peiriannydd sifil Daniel Alexander. Costiodd £11,828 i adeiladu[1]. Erbyn hyn mae'r goleudy yn cynnwys canolfan ymwelwyr. Gall ymwelwyr gweld hen ystafell beiriant y goleudy a hefyd dringo’r grisiau at y golau ei hyn.[2]

Defnyddiwyd golau olew yn wreiddiol. Tua 1840, adeiladwyd rheilffordd i ostwng golau llai i lawr y clogwyni os cuddiwyd y brif olau gan niwl. Disoldliwyd y brif lusern gan un newydd yn yr 1870au, eto ym 1909 ac eto ym 1927. Trydanwyd y golau ym 1938.

Daeth y goleudy’n awtomatig ar 12 Medi 1984, a rheolir y goleudy gan ganolfan Tŷ Trinity yn Harwich.[3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Tony Denton, Nicholas Leach (2011). Lighthouses of Wales. Foxglove Publishing.
  2. Gwefan Trinity House
  3. Tudalen y goleudy ar wefan Trinity House