Ynys fach ar benrhyn mwyaf gorllewinol Ynys Gybi, ar Fôn, ydy Ynys Lawd, a gysylltir ag Ynys Gybi gan bont fach, tua milltir i'r gorllewin o Fynydd Twr. Mae yng nghymuned Trearddur. Mae llwybr, gyda 400 o grisiau, yn disgyn i’r bont, 30 medr o hyd ar draws y môr i’r ynys. Ymgylchynu’r ynys gan glogwyni llithfaen, yn codi hyd at 60 medr uwchben y môr.[1] Mae mynediad i gŵn ar yr ynys.

Ynys Lawd
Mathpont grog, pont droed, ynys Edit this on Wikidata
PoblogaethEdit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Arwynebedd0.03 km² Edit this on Wikidata
GerllawMôr Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.3068°N 4.6988°W Edit this on Wikidata
Hyd0.26 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Enw golygu

Daw'r enw Saesneg South Stack o'r gair Sgandinafaidd stak, sef "ynys" (gweler hefyd Ynys Arw, a elwir North Stack yn Saesneg). Ystyr arferol y gair Cymraeg lawd yw "gwres", sef gwres anifeiliad yn neilltuol, ond mae arwyddocâd yr enw yn yr achos hwn yn ddirgelwch.

Goleudy golygu

Ceir goleudy enwog, Goleudy Ynys Lawd, ar yr ynys sydd bellach yn atyniad twristaidd. Codwyd y goleudy cyntaf ar Ynys Lawd yn 1809.[2] Dyluniwyd y goleudy 91 troedfedd (28 m) o daldra ar Ynys Lawd gan ddyn o'r enw Daniel Alexander ac mae'r prif golau i'w weld gan longau sy'n pasio ac fe'i cynlluniwyd i ganiatáu i longau deithio'n ddiogel ar y llwybr môr peryglus rhwng Dulyn, Caergybi a Lerpwl.

 
Llonddrylliad ar y creigiau ger Ynys Lawd (engrafiad gan W. Radclyffe o lun gan T. Creswick, tua 1850-60)

Gwarchodfa Natur Ynys Lawd golygu

Mae Gwarchodfa Natur Ynys Lawd, un o warchodfeydd yr Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar yr ynys a'r clogwyni gerllaw.

Cyfeiriadau golygu