Ynys Gybi
Ynys oddi ar pen gogledd-orllewinol Ynys Môn yw Ynys Gybi (Saesneg: Holy Island). Ei harwynebedd yw tua 464 hectar neu 15.22 milltir sgwâr. Fe'i henwir ar ôl Sant Cybi, nawddsant Caergybi. Ceir nifer sylweddol o safleoedd hynafol ar yr ynys, yn feini hirion, siambrau claddau a chytiau'r Gwyddelod a safleoedd cysylltiedig â Christnogaeth gynnar ac olion Celtaidd. Yn ôl Cyfrifiad 2011, mae gan Ynys Gybi boblogaeth o 13,659 ac roedd 11,431 (84%) o'r boblogaeth yn byw yng Nghaergybi ei hun.
![]() | |
Math |
ynys ![]() |
---|---|
| |
Prifddinas |
Caergybi ![]() |
Poblogaeth |
13,659 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Ynysoedd Prydain ![]() |
Sir |
Ynys Môn ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
39.4 km² ![]() |
Gerllaw |
Môr Iwerddon ![]() |
Cyfesurynnau |
53.2833°N 4.6167°W ![]() |
Hyd |
12.3 cilometr ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | |
AS/au |
|
![]() | |

DaearyddiaethGolygu
Y dref fwyaf ar yr ynys yw Caergybi, sy'n borthladd pwysig ers canrifoedd a lleoliad yr harbwr ar gyfer y llongau fferi i Iwerddon. Mynydd Twr (722' (220 m)) yw bryn uchaf Ynys Gybi a gweddill Môn.
Ceir nifer o glogwynni ar hyd yr arfordir gorllewinol gydag ynysoedd bychain fel Ynys Lawd, gyda'i goleudy enwog, ac Ynys Arw. Cafwyd nifer o londdrylliadau dros y blynyddoedd. Mae tua 30 milltir o Lwybr Arfordirol Ynys Môn (sy'n 125 milltir o hyd) i'w gael o amgylch Ynys Gybi.
Gelwir y llain o fôr sy'n gwahanu Ynys Gybi a gweddill Môn yn Fae Cymyran, sy'n cynnwys y Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yng Nghymru a elwir yn FBeddmanarch-Cymyran, ac a gofrestrwyd yn 1 Ionawr 1961 fel ymgais gadwraethol i amddiffyn a gwarchod y safle.[1]
CludiantGolygu
Cysylltir Ynys Gybi â thir mawr Môn gan sarnau sy'n dwyn y briffordd A5/A55 a Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru sy'n cysylltu Caergybi â Chaer a Llundain, a phont wreiddiol yr hen ffordd doll (A5). Yn ogystal ceir Pontrhydybont, a groesir gan ffordd 'B' ac sy'n llawer llai.
O Gaergybi mae gwasanaethau fferi ar gael i Dún Laoghaire a Dulyn, yn Iwerddon.
Dolenni allanolGolygu
- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru (bellach 'Cyfoeth Naturiol Cymru'); adalwyd 25 Rhagfyr 2013