Goliath
Cawr o Philistiad y ceir hanes ei orchfygu gan y Brenin Dafydd yn yr Hen Destament oedd Goliath. Yn ôl yr hanes roedd yn 6 cwfyd o daldra. Ceir yr hanes yn Llyfr Cyntaf Samuel.
Goliath oedd pencampwr mawr byddin y Philistiaid a wynebodd fyddin y Brenin Sawl yn Nyffryn Elah. Roedd nerth y ddwy fyddin yn gyfartal ac roeddent yn ofni ymosod. Felly bob diwrnod byddai Goliath yn sefyll rhwng y ddwy fyddin a herio un o ryfelwyr yr Hebreaid i ymladd ag ef. Gorchfygodd bob rhyfelwr a dderbyniodd yr her. O'r diwedd, daeth Dafydd, bugail ifanc a ddaeth yno i wylio'r frwydr, i fyny a gofyn caniatad i ymladd â Goliath. Gwrthododd wisgo arfwisg Sawl gan ymddiried yn Nuw am ei fuddugoliaeth. Cerddodd allan rhwng y ddwy fyddin i wyneb'r cawr, a wisgai arfwisg gryf amdano, gyda dim byd ond ffon dafl fel arf. Dirmygwyd ef gan Goliath fel wrthwynebydd pitw. Ond rhedodd Dafydd o gwmpas y cawr yn wisgi gan osgoi ei gleddyf mawr. Yna tarodd ef yn ei dalcen â charreg o'i ffon dafl a syrthiodd Goliath i'r llawr. Cyn iddo gael y cyfle i ddadebru, cymerodd Dafydd y cleddyf anferth a thorri ei ben.
Ffôdd y Philistiaid mewn dychryn mawr. Cymerodd Dafydd ben Goliath a'i roi i Sawl yn ei babell. Daeth merched yr Hebreaid i ddawnsio a dathlu'r fuddugoliaeth.
Er na wyddom faint o sail hanesyddol sydd i'r hanes, gwyddys fod ymladd rhwng rhyfelwyr unigol rhwng dwy fyddin fel hyn yn digwydd yn yr Henfyd, fel y tyst hanes Rhyfel Caerdroea fel y'i ceir yn yr Iliad.
Mae chwedl Dafydd a Goliath wedi ysbrydoli sawl artist a llenor. Yn symbolaidd, mae'r stori yn cynrychioli buddugoliaeth y gweinion gyda Duw o'u plaid yn erbyn trahawster cryfion y byd (fel Crist yn gorchfygu'r Diafol).
Ffynonellau
golygu- Y Geiriadur Beiblaidd (Hughes a'i Fab, Wrecsam, 1926).
- J. C. J. Mitford, Dictionary of Christian Lore and Legend (Llundain, 1983).