Chwarren yn y system atgenhedlu sy'n cynhyrchu gametau yw gonad[1] neu chwarren ryw.[1] Y ceilliau sy'n cynhyrchu sberm yw'r gonadau gwrywol, a'r wyfaoedd neu'r ofarïau sy'n cynhyrchu ofa yw'r gonadau benywol.

Mae'n bosib i fod dynol deuryw o'r cyflwr "rhyngrywioldeb gonadaidd gwir" meddu chwarren ryw o'r enw wygaill a chanddi meinwe wyfaol a cheilliol.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Geiriadur yr Academi, [gonad].
  2. (Saesneg) Intersex, MedlinePlus Medical Encyclopedia. Adalwyd ar 8 Ionawr 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.