Gone Girl

ffilm ddrama am drosedd gan David Fincher a gyhoeddwyd yn 2014

Ffilm thriller seicolegol yw Gone Girl a rhyddhawyd yn 2014 ac sy'n serennu Ben Affleck a Rosamund Pike. Cyfarwyddwyd y ffilm gan David Fincher ac fe'i hysgrifenwyd gan Gillian Flynn. Mae'n seiliedig ar ei nofel o'r un enw o 2012.

Gone Girl
A man in a blue shirt standing by a body of water, wispy clouds in the blue sky above. A woman's eyes are superimposed on the sky. Near the bottom of the image there are horizontal distortion error lines.
Theatrical release poster
Cyfarwyddwyd ganDavid Fincher
Cynhyrchwyd gan
SgriptGillian Flynn
Seiliwyd arGone Girl gan
Gillian Flynn
Yn serennu
Cerddoriaeth gan
SinematograffiJeff Cronenweth
Golygwyd ganKirk Baxter
Stiwdio
Dosbarthwyd gan20th Century Fox
Rhyddhawyd gan26 Medi 2014
Hyd y ffilm (amser)149 munud
GwladUDA
IaithSaesneg
Cyfalaf$61 miliwn
Gwerthiant tocynnau$369.3 miliwn

Sêr eraill y ffilm yw Neil Patrick Harris a Tyler Perry.

Plot golygu

Lleolir y ffilm yn nhalaith Missouri cyn ac yn dilyn dirwasgiad 2008. Mae'n dilyn carwriaeth ac yna trybilon Nick Dunne (Affleck) wrth iddo gwrdd gyda'i wraig hardd, Amy (Pike) ac yna dirgelwch ei llofruddiaeth ac yna diflaniad honedig. Ceir sawl tro trwstan yn y stori.

Mae carwriaeth Dunne ac Amy i gychwyn yn hudolus ond wrth symud nôl i fro ei febyd, North Catharage, mae Nick yn ymddieithro oddi ar ei wraig hardd ac yn dechrau cael perthynas â myfyrwraig iddo. Un bore mae'n dychwelyd i'r tŷ ac yn gweld olion gwaed a ffrwgwd ar hyd y lle a dim golwg o'i wraig. Ar glywed am gipiad neu lofruddiaeth (dydy'r sefyllfa ddim yn glir) mae'r cyhoedd lleol yn gydymdeimladol i Dunne i gychwyn. Ond buan mae'r farn yn troi wrth i bobl glywed am ei odineb a sibrydion eraill.

Buan y daw i'r amlwg nad yw Amy wedi ei llofruddio ond ei bod wedi creu twyll sydd bron â bod yn berffaith wrth iddi ddianc o'i gŵr a'i pherthynas siomedig. Ond wrth iddi deimlo fod y cynllun yn mynd yn berffaith mae Nick yn dod i glywed am ochr gudd i'w wraig ac yn dechrau ceisio clirio ei enw da tra fod Amy yn dechrau gwneud camgymeriad wrth aros mewn gwersyllfa.

Sgrinio a Gwobrau golygu

[[Delwedd:Gone Girl Premiere at the 52nd New York Film Festival P1070621 (15370484432).jpg|bawd|Premiere Gone Girl Premiere yn y 52fed Gŵyl Ffilm Efrog Newydd gyda Ben Affleck a Rosamund Pike [[Delwedd:Gone Girl Premiere at the 52nd New York Film Festival P1070597 (15370660505).jpg|bawd|Premiere Gone Girl gyda Pike, Patrick Harris, 'Desi' a Tyler Perry Bolt, twrnau Nick]] Dangoswyd premiere byd o'r ffilm yn y 52fed Gŵyl Ffilm Efrog Newydd ar 26 Medi 2014. Rhyddhawyd y ffilm ar draws UDA ar 3 Hydref 2014. Derbyniodd ymateb bositif iawn gan y beirniaid a gan y cyhoedd gan ennill dros $369 miliwn, sef ffilm fwyaf gwerth gros fwyaf Fincher.

Derbyniodd Rosamund Pike ganmoliaeth arbennig am ei pherfformiad ac enillodd enwebiadau ar gyfer Gwobr Academy (Oscars), Gwobr BAFTA, Golden Globe Award, a Screen Actors Guild Award for Best Actress. Cafwyd enwebiadau pellach i'r Golden Globe Award am Cyfarwyddo Gorau i Fincher a Gwobr Golden Globe, BAFTA, ac enwebiad Gwobr Critics' Choice i addasiad sgrîn gan Flynn - enillodd Flynn y wobr yma.[1]

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Golden Globe: 'Birdman,' 'Boyhood' and 'Imitation Game' Top Nominations". Variety. 11 Rhagfyr 2014. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2014.