Reese Witherspoon

actores a aned yn 1976

Actores Americanaidd a chynhyrchydd ffilm yw Laura Jeanne Reese Witherspoon (ganwyd 22 Mawrth 1976), sy'n cael ei hadnabod yn well fel Reese Witherspoon. Ymddangosodd Witherspoon yn gyntaf fel prif actores yn y ffilm The Man in the Moon ym 1991; yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, actiodd yn y ffilm Wildflower. Yn 1996, ymddangosodd Witherspoon yn Freeway a dilynodd y ffilm honno gyda thair ffilm 1998 mawr arall: Overnight Delivery, Pleasantville, a Twilight. Ym 1999, ymddangosodd Witherspoon yn Election, a chafodd enwebiad Glôb Aur o'r herwydd.

Reese Witherspoon
FfugenwReese Witherspoon, Laura Witherspoon Edit this on Wikidata
GanwydLaura Jeanne Reese Witherspoon Edit this on Wikidata
22 Mawrth 1976 Edit this on Wikidata
New Orleans Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, model, cynhyrchydd ffilm, actor llais, person busnes, cynhyrchydd teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amWhiskey in a Teacup: What Growing Up in the South Taught Me About Life, Love, and Baking Biscuits, Legally Blonde, Walk The Line Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadJulia Roberts, Meryl Streep, Frances McDormand, Holly Hunter, Gena Rowlands, Jodie Foster, Michael Keaton Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodRyan Phillipp, Jim Toth Edit this on Wikidata
PartnerJake Gyllenhaal Edit this on Wikidata
PlantAva Phillippe Edit this on Wikidata
PerthnasauJohn Witherspoon Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am yr Actores Orau, Gwobr y Golden Globe i'r Actores Orau - mewn Drama Gerdd neu Gomedi ar Ffilm, Gwobr Cymdeithas Actorion Sgrîn, Gwobr BAFTA am yr Actores Orau i Chwarae'r Brif Ran, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Actores Orau Gŵyl Ffilm Sitges Edit this on Wikidata
Witherspoon, 2014 yng Ngwyl Ffimiau Rhyngwladol, Toronto

Yn 2001, cafodd lwyddiant mawr yn ei gyrfa wrth chwarae "Elle Woods" yn Legally Blonde, ac yn 2002, serennodd yn Sweet Home Alabama, ei llwyddiant masnachol mwyaf hyd yma. Yn 2003, daeth yn ôl i'r sgrîn fel prif actores a chynhyrchydd gweithredol Legally Blonde 2: Red, White & Blonde. Yn 2005, cafodd Witherspoon sylw byd-eang a chanmoliaeth uchel am ei phortread o June Carter Cash yn Walk the Line. O'r herwydd, cafodd Wobrau'r Academi, y Glôb Aur, BAFTA, a'r Screen Actors Guild Awards ar gyfer Actores Orau a Phrif Rôl.

Priododd Witherspoon actor Cruel Intentions a chyd-seren Ryan Phillippe ym 1999; mae dau o blant ganddynt, Ava a Deacon. Gwahanodd y ddau ar ddiwedd 2006 ac ysgaront ym mis Hydref 2007. Mae Witherspoon yn berchen cwmni cynhyrchu o'r enw Type A Films, ac mae hi'n weithredol mewn sefydliadau eiriolaeth plant a benywod.

Ffilmiau golygu

Blwyddyn Teitl Rôl Nodiadau
1991 The Man in the Moon Dani Trant
Wildflower Ellie Perkins
1992 Desperate Choices: To Save My Child Cassie
1993 A Far Off Place Nonnie Parker
Jack the Bear Karen Morris Young Artist Award – Best Youth Actress Co-star
1994 S.F.W. Wendy Pfister
1996 Freeway Vanessa Cognac Festival du Film Policier Award – Best Actress
Fear Nicole Walker
1998 Twilight Mel Ames
Overnight Delivery Ivy Miller
Pleasantville Jennifer/Mary Sue
1999 Cruel Intentions Annette Hargrove
Election Tracy Flick Golden Globe Nomineiddwyd – Actores Gorau
Independent Spirit Award Nomineiddwyd – Actores Gorau
National Society of Film Critics Award – Actores Gorau
Online Film Critics Society Award – Actores Gorau
Best Laid Plans Lissa
2000 Little Nicky Holly Cameo
American Psycho Evelyn Williams
2001 The Trumpet of the Swan Serena Llais
Legally Blonde Elle Woods Golden Globe Nomineiddwyd - Actores Gorau
MTV Movie Award – Perfformiad Gomediol Gorau
2002 The Importance of Being Earnest Cecily Cardew
Sweet Home Alabama Melanie Carmichael
2003 Legally Blonde 2: Red, White and Blonde Elle Woods Cynhyrchydd gweithredol
2004 Vanity Fair Becky Sharp
2005 Walk the Line June Carter Cash Llais
GwobrBAFTA, Gwobr Academi Actores Gorau, Gwobr Screen Actors Guild Actores gorau mewn ffilm, Gwobr Golden Globe Actores gorau mewn Ffilm Gerddorol neu Gomedi
Gwobr BFCA, National Society of Film Critics Award – Actores Gorau
Austin Film Critics Association Award, New York Film Critics Circle Award – Actores Gorau
San Francisco Film Critics Circle Award, Online Film Critics Society Award – Actores Gorau
Just Like Heaven Elizabeth Masterson Perfformiwr cân
2007 Rendition Isabella El-Ibrahimi
2008 Penelope Annie
Four Christmases Kate
2009 Monsters vs. Aliens Susan Murphy / Ginormica (llais)
2011 The Bear and the Bow Merida (llais)
2012 This Means War Lauren Scott
2013 Mud Juniper
2014 Devil's Knot Pamela Hobbs
Wild Cheryl Strayed Hefyd yn gynhyrchwraig
The Good Lie Carrie Davis
Inherent Vice Penny Kimball
2015 Hot Pursuit Y Swyddog Rose Cooper Hefyd yn gynhyrchwraig


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.