Good Will Hunting
ffilm ddrama rhamantus gan Gus Van Sant a gyhoeddwyd yn 1997
Mae Good Will Hunting yn ffilm o 1997 a gyfarwyddwyd gan Gus Van Sant. Ysgrifennwyd y sgript gan Matt Damon a Ben Affleck, ac mae'r ddau ohonynt yn serennu ynddi.
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Gus Van Sant |
Cynhyrchydd | Lawrence Bender Scott Mosier Kevin Smith Bob Weinstein Harvey Weinstein |
Ysgrifennwr | Matt Damon Ben Affleck |
Serennu | Matt Damon Robin Williams Ben Affleck Stellan Skarsgård Minnie Driver |
Cerddoriaeth | Danny Elfman |
Sinematograffeg | Jean Yves Escoffer |
Golygydd | Pietro Scalia |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Miramax Films |
Amser rhedeg | 126 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Lleolir y ffilm yn Boston, Massachusetts. Mae'r ffilm yn adrodd hanes Will Hunting (Damon), gwr ifanc Catholig o Dde Boston. Er ei fod yn hynod ddeallus a hunanddysgedig, gweithia fel gofalydd yn Athrofa Dechnolegol Massachusetts. Rhaid iddo ddysgu oresgyn ei ofn o gael ei adael er mwyn dysgu i ymddiried a charu pobl sy'n ei gofalu amdano.
Roedd Good Will Hunting yn lwyddiant masnachol a chafodd ganmoliaeth mawr wrth y beirniaid, gan ennill nifer o wobrau. Daeth Damon ac Affleck yn enwog o ganlyniad i'r ffilm hon.