Matt Damon

sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn g Nghaergrawnt yn 1970

Actor a dyngarwr o'r Unol Daleithiau yw Matthew Paige Damon (ganwyd 8 Hydref 1970). Enillodd Wobr yr Academi am y Sgript Ffilm Wreiddiol Orau am ei sgriptio yn Good Will Hunting a chafodd ei enwebu am chwarae'r prif rôl yn yr un ffilm. Wrth i'w boblogrwydd gynyddu ers y ffilm ym 1997, mae ef bellach wedi cydweithio â sêr mawr ffilmiau'r brif ffrwd a chaiff ei ystyried bellach yn un o brif actorion Hollywood.

Matt Damon
LlaisMatt Damon - The Film Programme - 17 Aug 2007 - b007w3c5.flac Edit this on Wikidata
GanwydMatthew Paige Damon Edit this on Wikidata
8 Hydref 1970 Edit this on Wikidata
Cambridge Edit this on Wikidata
Man preswylLos Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, ysgrifennwr, actor llais, actor, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd, actor teledu Edit this on Wikidata
Taldra1.78 metr Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
TadKent Telfer Damon Edit this on Wikidata
MamNancy June Carlsson Page Edit this on Wikidata
PriodLuciana Bozán Barroso Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi am Ysgrifennu Gorau, Sgript Wreiddiol, Satellite Award for Best Cast – Motion Picture, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata
llofnod

Mae Damon wedi serennu mewn ffilmiau poblogaidd megis Saving Private Ryan, The Talented Mr. Ripley, y gyfres [[Ocean's Eleven|Ocean's]], y gyfres Bourne, Syriana, The Good Shepherd a The Departed. Mae ef wedi ennill amryw o wobrau am ei berfformiadau mewn ffilmiau gwahanol ac mae ganddo seren ar Lwybr Enwogrwydd Hollywood. Mae Damon yn un o'r pump ar hugain actor i gael ei dalu fwyaf erioed. Yn 2007, cafodd ei enwi fel y Dyn Byw Mwyaf Rhywiol gan gylchgrawn People.

Bu Damon yn weithredol iawn gyda gwaith elusennol hefyd, gan gynnwys yr Ymgyrch One a'r h2O Africa Foundation. Mae gan Damon a'i wraig, Luciana Bozán Barroso, ddwy ferch, Isabella a Gia, a llysferch Alexia o briodas blaenorol Barroso.

Ffilmyddiaeth

golygu
Blwyddyn Ffilm Rôl Nodiadau
1988 Mystic Pizza Steamer Un llinell
1992 School Ties Charlie Dillon
1993 Geronimo: An American Legend 2nd Lt. Britton Davis
1996 Glory Daze Edgar Pudwhacker Cameo
Courage Under Fire Arbenigwr Ilario
1997 Good Will Hunting Will Hunting Gwobr yr Academi am Sgript Wreiddiol Orau gyda Ben Affleck
Gwobr Golden Globe Award y Sgript Orau
Enwebwyd - Gwobr yr Academi am yr Actor Gorau
Enwebwyd - Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau
Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am y Cast Gorau
Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am yr Actor Gorau
Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas Ysgrifenwyr Americanaidd gyda Ben Affleck
Cyflog o $500,000[1]
The Rainmaker Rudy Baylor
Chasing Amy Shawn Oran Cameo
1998 Rounders Mike McDermott
Saving Private Ryan Private James Francis Ryan Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am y Cast Gorau
1999 The Talented Mr. Ripley Tom Ripley Enwebwyd - Gwobr Golden Globe am yr Actor Gorau
Dogma Loki
2000 Finding Forrester Steven Sanderson Cameo
All the Pretty Horses John Grady Cole
The Legend of Bagger Vance Rannulph Junuh
Titan A.E. Cale Tucker Llais yn unig
2001 The Majestic Luke Trimble Llais yn unig
Ocean's Eleven Linus Caldwell
Jay and Silent Bob Strike Back Ei hun Cameo
2002 Confessions of a Dangerous Mind Matt, gwr di-briod #2 Cameo
The Bourne Identity Jason Bourne Cyflog o $10,000,000 [2]
Spirit: Stallion of the Cimarron Spirit Llais
Gerry Gerry Cyd-ysgrifennydd hefyd
2003 Stuck on You Bob Tenor
2004 Howard Zinn: You Can't Be Neutral on a Moving Train Adroddwr Llais
Ocean's Twelve Linus Caldwell
The Bourne Supremacy Jason Bourne Cyflog o $26,000,000[3]
Jersey Girl Rheolwr PR #2 Cameo
Eurotrip Donny Cameo
2005 Syriana Bryan Woodman
The Brothers Grimm Will (Wilhelm) Grimm
2006 The Good Shepherd Edward Wilson
The Departed Colin Sullivan Enwebwyd - Gwobr Cymdeithas yr Actorion Sgrîn am y Cast Gorau
2007 Ocean's Thirteen Linus Caldwell
The Bourne Ultimatum Jason Bourne
Youth Without Youth Ted Jones, Newyddiadurwr Cylchgrawn Life Cameo
2009 Margaret Mr. Aaron wedi'i gwblhau
Green Zone Chief Warrant Officer Roy Miller post-production
The Informant Mark Whitacre ôl-gynhyrchu
2010 Bourne 4 Jason Bourne ôl-gynhyrchu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan The Biography Channel Archifwyd 2009-09-18 yn y Peiriant Wayback Adalwyd 05-02-09
  2. Gwefan The Biography Chanel[dolen farw] Adalwyd 06-02-09
  3. Gwefan Forbes Adalwyd 06-02-09
   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.