Gus Van Sant
Cyfarwyddwr, sgriptiwr, ffotograffydd, cerddor ac awdur Americanaidd yw Gus Green Van Sant, Jr. (ganed 24 Gorffennaf 1952). Cafodd ei enwebu am Wobr yr Academi am Gyfarwyddo Good Will Hunting (1997) ac am ei ffilm Milk (2008). Enillodd y Palme d'Or yng Ngŵyl Ffilmiau Cannes yn 2003 am ei ffilm Elephant. Mae'n byw ym Mhorland, Oregon.
Gus Van Sant | |
---|---|
Ganwyd | Gus Green Van Sant, Jr. 24 Gorffennaf 1952 Louisville |
Man preswyl | Portland |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfarwyddwr ffilm, ffotograffydd, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, actor, cerddor, cyfarwyddwr |
Gwobr/au | Palme d'Or, Gwobr Cyfarwyddwr Gorau Cannes |
Dechreuodd ei yrfa yn cyfarwyddo hysbysebion ar gyfer y teledu. Ers hynny, mae ef wedi ymdrin â themâu fel rhywioldeb dynol ac îs-ddiwylliannau cymdeithasol mewn modd diflewyn ar dafod. Mae ef ei hun yn ddyn hoyw sydd wedi dod allan.
Mae ei ffilmograffiaeth fel ysgrifennydd a chyfarwyddwr yn cynnwys addasiad o nofel Tom Robbins. Even Cowgirls Get The Blues. Roedd y cast yn cynnwys trawsdoriad eang o actorion, yn amrywio o Keanu Reeves, Roseanne Barr, Uma Thurman, a k.d. lang. Mae ei weithiau eraill yn cynnwys My Own Private Idaho, a oedd hefyd yn serennu Kneanu Reeves a'r diweddar River Phoenix. (Roedd Van Sant hefyd yn bwriadu cyfarwyddo ffilm fywgraffiadol am fywyd Andy Warhol gyda Phoenix yn chwarae'r prif ran, ond canslodd y prosiect ar ôl marwolaeth Phoenix).
Bywyd cynnar
golyguGaned Van Sant yn Louisville, Kentucky, yn fab i Betty (née Seay) a Gus Green Van Sant, Sr; roedd ei dad yn wneuthurwr dillad[1] ac yn werthwr teithiol a weithiodd yn galed a buan y cododd i'r dosbarth canol, gan ddal swyddi gweithredol yn y maes marchnata, gan gynnwys llywyddiaeth adran ddillad White Stag Manufacturing Company.[2] Symudodd teulu Van Sant o gwmpas llawer yn ystod ei blentyndod oherwydd gyrfa ei dad.
Daw teulu ei dad yn rannol o dras Iseldiraidd, mae'r enw "Van Sant" yn tarddu o'r enw Iseldireg "Van Zandt". Cyrrhaeddodd y Van Zandt cyntaf i ardal yr Iseldiroedd Newydd yn ystod yr 17g cynnar, o amgylch lle mae Dinas Efrog Newydd heddiw.[3]
Mynychodd Van Sant Darien High School yn Darien, Connecticut,[4] a The Catlin Gabel School yn Portland, Oregon.[5] Bu â diddordeb yn y celfeddydau gweledol yn gyson ers oedran cynnar (paentio a ffilmiau Super-8 yn benodol); dechreuodd greu ffiliau byr a oedd yn rhannol-hunangofiannol tra roedd dal yn yr ysgol, gan gostio rhwng 30 a 50 doler i'w cynhyrchu. Gan ddilyn ei ddiddordebau celfyddydol, aeth Van Sant ymlaen i astudio yn Rhode Island School of Design ym 1970, ble cafodd ei gyflwyno i nifer o gyfarwyddwyr avant-garde, ac ysbrydolwyd ef i newidsail ei astudiaethau o baentio i sinema.[6]
Ffilmograffiaeth
golyguFfilmiau llawn
golygu- Mala Noche (1985)
- Drugstore Cowboy (1989)
- My Own Private Idaho (1991)
- Even Cowgirls Get The Blues (1993)
- To Die For (1995)
- Good Will Hunting (1997)
- Psycho (1998)
- Finding Forrester (2000)
- Gerry (2002)
- Elephant (2003)
- Last Days (2005)
- Paranoid Park (2007)
- Milk (2008)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ film reference (2012). "Gus Van Sant Biography (1952?-)". film reference. Advameg, Inc. Cyrchwyd August 15, 2012.
- ↑ "Changes in Management Disclosed by White Stag". The Oregonian. Portland, Oregon. December 5, 1969. Section 1, p. 39.
- ↑ [1]
- ↑ "Darien High School". Public School Review. Public School Review. 2003–2012. Cyrchwyd September 24, 2012.
- ↑ "Gus Van Sant- Biography". Yahoo! Movies. Yahoo!, Inc. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-12-23. Cyrchwyd September 24, 2012.
- ↑ Marx, Rebecca Flint. "Gus van Sant Biography". The New York Times. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-07-24. Cyrchwyd 2017-09-13.