Gorfodaeth anffurfiol

proses gymdeithasol lle mae'r gofal iechyd yn ceisio gwneud i glaf gadw at y driniaeth a ddymunir heb ei orfodi

Yng nghyd-destun perthynas meddyg-claf, mae gorfodaeth anffurfiol yn broses gymdeithasol lle mae'r gofal iechyd yn ceisio gwneud i glaf gadw at y driniaeth a ddymunir heb ei orfodi. Hyn yw, ceisia'r meddyg, y nyrs neu weithiwr arall o staff gofal iechyd beidio a defnyddio gorfodaeth ffurfiol megis ymrwymiad anwirfoddol ynghyd â thriniaeth anwirfoddol.[1] Enghraifft o driniaeth anwirfoddol yw chwistrelliad mewngyhyrol o haloperidol.[2]

Gorfodaeth anffurfiol
Enghraifft o'r canlynolproses, triniaeth feddygol Edit this on Wikidata
Mathcoercion Edit this on Wikidata
Rhan otherapi Edit this on Wikidata

Mae gorfodaeth anffurfiol yn aml yn cael ei defnyddio a'i gymhwyso gan weithwyr iechyd proffesiynol fel rhan o driniaeth iechyd meddwl ond mae hefyd yn cael ei ddefnyddio gan ffrindiau a theulu defnyddiwr y gwasanaeth.[3]

Dosbarthiad golygu

Mae sawl hierarchaeth o orfodaeth anffurfiol wedi'u creu. Diffiniodd Smuzkler ac Appelbaum hierarchaeth gorfodi pum lefel:[4][5]

  1. perswâd
  2. Trosoledd rhyngbersonol (interpersonal leverage)
  3. cymhellion
  4. bygythiadau
  5. triniaeth orfodol

Mae Lidz et all yn diffinio naw math o orfodaeth anffurfiol:

  1. perswâd
  2. cymell
  3. bygythiadau,
  4. dangos grym
  5. grym corfforol
  6. grym cyfreithiol
  7. cais am ffafriaeth warediadol
  8. rhoi gorchmynion
  9. dichell.

Trosoledd rhyngbersonol golygu

Os oes gan y defnyddiwr gwasanaeth ddibyniaeth emosiynol ar y darparwr gwasanaeth, yna gall y clinigwr ddefnyddio siom i ddylanwadu ar y defnyddiwr gwasanaeth.[6]  Yn syml: "Dw i'n hynod siomedig na wnest ti gymryd y tabledi, er i ti addo - gaddo wneud hynny."

Cymhellion golygu

Efallai y gofynnir i'r claf wneud yr hyn y mae clinigwr ei eisiau i gael mynediad at nwyddau o werth ariannol megis tai, arian, plant, a chyfiawnder troseddol.[7] Mynediad amodol i dai yw’r math mwyaf cyffredin o gymhelliant ymysg gorfodaeth anffurfiol, yn ôl 15-40% o'r defnyddwyr gwasanaeth. Canfu astudiaeth o orfodaeth anffurfiol yn y ddarpariaeth tai fod 60% o ddefnyddwyr gwasanaethau nad oeddent yn cydymffurfio wedi'u heithrio o'r rhaglen. Yn syml: "os cymerwch ein tabledi, yna fe gewch oriadau'r fflat." 

Gall gweithiwr gofal iechyd ddefnyddio adnoddau cyffredinol megis sigaréts, bwyd neu ddiod i berswadio cleifion i gymryd eu meddyginiaeth.[8]

Bygythiadau golygu

Gellir defnyddio'r bygythiad o ymrwymiad anwirfoddol neu driniaeth anwirfoddol i argyhoeddi cleifion i gydymffurfio heb ddefnyddio gorfodaeth ffurfiol.[9] Yn syml: "Os na chymeri dy dabledi, yna bydd yn rhaid i ni..." 

Mynychder golygu

Dengys astudiaethau fod y rhan fwyaf o weithwyr iechyd meddwl proffesiynol yn defnyddio gorfodaeth anffurfiol o ddydd i ddydd.[10]

Mae ymarferwyr yn defnyddio gorfodaeth anffurfiol yn fwy nag y maent yn ymwybodol ohono, a dangosodd astudiaeth ei fod yn cael ei tan-amcangyfrifo.[11]  Mae 29-59% o ddefnyddwyr gwasanaeth yn defnyddio gorfodaeth anffurfiol. Adroddodd 11-23% o ddefnyddwyr gwasanaeth am drosoledd barnwrol (Judicial leverage), lle mae defnyddiwr gwasanaeth yn cydymffurfio i osgoi achos cyfreithiol.

Agwedd defnyddwyr gwasanaeth golygu

Dywedodd 55-69% o ddefnyddwyr gwasanaeth eu bod yn gweld trosoledd rhyngbersonol yn deg a nododd 48-60% ei fod yn effeithiol. Mae astudiaethau'n dangos bod cleifion â dirnadaeth uwch yn fwy ffafriol i orfodaeth. Ystyrir bod cleifion sydd wedi eu diagnosio o sgitsoffrenia yn fwy tebygol o ddweud bod gorfodaeth anffurfiol yn digwydd, ac yn fwy negyddol am orfodaeth.[12]

Agweddau ymhlith darparwyr gwasanaethau golygu

Mae darparwyr gwasanaethau’n ystyried gorfodaeth anffurfiol fel ffordd o hybu cydymffurfiaeth, ac y gallai atal gwaethygu’r symptomau a’r angen am orfodaeth ffurfiol. Teimlai gweithwyr proffesiynol y gallai gorfodaeth anffurfiol annog unigolion i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros eu bywydau.[13]

Cyfeiriadau golygu

  1. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.
  2. Violence and aggression: short-term management in mental health, health and community settings: NICE guideline. National Institute of Clinical Excellence. 2015.
  3. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  4. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  5. Coercion in community mental health care : international perspectives. Andrew Molodynski, Jorun Rugkåsa, Tom Burns. Oxford. 2016. ISBN 978-0-19-103431-2. OCLC 953456448.CS1 maint: others (link)
  6. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  7. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  8. Pelto-Piri, Veikko; Kjellin, Lars; Hylén, Ulrika; Valenti, Emanuele; Priebe, Stefan (December 2019). "Different forms of informal coercion in psychiatry: a qualitative study" (yn en). BMC Research Notes 12 (1): 787. doi:10.1186/s13104-019-4823-x. ISSN 1756-0500. PMC 6889621. PMID 31791408. https://link.springer.com/content/pdf/10.1186/s13104-019-4823-x.pdf.
  9. Pelto-Piri, Veikko; Kjellin, Lars; Hylén, Ulrika; Valenti, Emanuele; Priebe, Stefan (December 2019). "Different forms of informal coercion in psychiatry: a qualitative study" (yn en). BMC Research Notes 12 (1): 787. doi:10.1186/s13104-019-4823-x. ISSN 1756-0500. PMC 6889621. PMID 31791408. https://link.springer.com/content/pdf/10.1186/s13104-019-4823-x.pdf.Pelto-Piri, Veikko; Kjellin, Lars; Hylén, Ulrika; Valenti, Emanuele; Priebe, Stefan (December 2019). "Different forms of informal coercion in psychiatry: a qualitative study" (PDF). BMC Research Notes. 12 (1): 787. doi:10.1186/s13104-019-4823-x. ISSN 1756-0500. PMC 6889621. PMID 31791408.
  10. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  11. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  12. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.
  13. Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review". Frontiers in Psychiatry 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640. https://www.researchgate.net/profile/Ana-Zaninotto-2/publication/323809188_New_models_of_care_for_patients_with_severe_mental_illness_-_bridging_in_-_and_outpatients/links/5aabe2c7a6fdcce30faafdd9/New-models-of-care-for-patients-with-severe-mental-illness-bridging-in-and-outpatients.pdf#page=19.Hotzy, Florian; Jaeger, Matthias (2016). "Clinical Relevance of Informal Coercion in Psychiatric Treatment—A Systematic Review" (PDF). Frontiers in Psychiatry. 7: 197. doi:10.3389/fpsyt.2016.00197. ISSN 1664-0640.