Haloperidol
Mae Haloperidol yn feddyginiaeth nodweddiadol wrth seicotig. Mae'n feddyginiaeth sydd ar gael trwy ragnodyn meddyg yn unig yn y DU. Mae ar gael fel meddyginiaeth generig neu o dan yr enwau brand Dozic, Haldol a Serenace[1] . Mae'r feddyginiaeth ar Restr Meddyginiaethau Hanfodol Sefydliad Iechyd y Byd, sef cofnod o'r meddyginiaethau mwyaf effeithiol a diogel sydd eu hangen mewn system iechyd.
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | alcohol, heterocyclic compound |
Màs | 375.140135 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₂₁h₂₃clfno₂ |
Enw WHO | Haloperidol |
Clefydau i'w trin | Schizophreniform disorder, syndrom gilles de la tourette, chwydu, sgitsoffrenia, anhwylder seicotig, schizoaffective disorder, afiechyd meddwl, gordyndra |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Rhan o | response to haloperidol, cellular response to haloperidol |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, fflworin, carbon, clorin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnydd meddygol
golyguDefnyddir Haloperidol wrth reoli symptomau:
- Seicosis llym, fel y seicosis a achosir gan gyffuriau megis LSD, psilocybin, amphetaminau, cetetamin, a phencyclidine, a seicosis sy'n gysylltiedig â thwymyn uchel neu glefyd metabolig
- I drin effeithiau rhoi'r gorau i alcohol neu opioid
- Cynnwrf a dryswch sy'n gysylltiedig â sglerosis yr ymennydd
- Seicosis a achosir gan alcohol
- Rhithweledigaethau o ganlyniad i roi'r gorau i alcohol.
- Deliriwm gorfywiog (i reoli elfen aflonyddu'r deliriwm)
- Gorfywiogrwydd ymosodol
- Anhwylderau ymddygiad difrifol mewn plant a phobl ifanc, pan na fo modd arall o'u trin
- Sgitsoffrenia
- Treial therapiwtig mewn anhwylderau personoliaeth, megis anhwylder personoliaeth ffiniol
- I drin achosion difrifol o'r ig
- Trin anhwylderau niwrolegol, megis anhwylderau tic mewn cyflyrau megis syndrom Tourette, a corea
- Trin teimladau o gyfogrwydd a chwydu difrifol mewn gofal ôl llawdriniaeth a gofal lliniarol, yn enwedig ar gyfer atal effeithiau andwyol ymbelydredd a chemotherapi mewn oncoleg
Sgil effeithiau
golyguMae sgil effeithiau haloperidol yn cynnwys:[2]
- syrthni / cysgadrwydd
- camweithrediad rhywiol (ee clefyd Priapus)
- clefyd Parkinson
- dystonia (gwewyr parhaus a chyfyngiadau cyhyrau)
- trafferthion anadlu
- y dwymyn
- dryswch
beichiogrwydd a bwydo ar y fron
golyguGall effeithio ar y baban yn y groth o'i ddefnyddio tra'n feichiog. Mae'r cyffur yn pasio i mewn i laeth y fron ac fe all effeithio ar y baban sy'n fwydo.
Gyrru
golyguDylai claf osgoi gyrru a gweithio efo peirannau neu mewn sefyllfaoedd peryglus hyd wybod sut effaith bydd y cyffur yn cael arno. Mae haloperidol yn gallu achosi syrthni ac arafu ymatebion.
Alcohol
golyguDylai claf osgoi alcohol wrth gymryd haloperidol. Gall alcohol cynyddu effaith tawelydd y cyffur.
Dos
golyguMae haloperidol ar gael fel tabled, capsiwl, hylif, pigiad a phigiad tymor hir[3] . Bydd y dos rhwng 3 mg i 10 mg i gychwyn wrth drin salwch meddwl gan godi i uchafswm o 30 mg y diwrnod. Bydd y claf yn teimlo effaith y cyffur ar ôl 2 i 3 awr o dderbyn y cyffur trwy'r llwnc ac o fewn llai na hanner awr o'i dderbyn trwy bigiad. Bydd effeithiau'r cyffur yn para rhwng 6 a 24 awr o'u llyncu, 2-4 awr o bigiad a hyd at 4 wythnos wedi pigiad tymor hir.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ NICE Haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018
- ↑ Web MD Haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018
- ↑ Mind haloperidol adalwyd 25 Ionawr 2018
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |