Gorllewin Berlin
Yn ystod y Rhyfel Oer roedd Gorllewin Berlin yn ddinas ac yn rhanbarth o Orllewin yr Almaen wedi'i amgylchynu gan diriogaeth ym meddiant Dwyrain yr Almaen a'i hynysu o'r Gorllewin. Roedd Mur Berlin yn gwahanu Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin. Daeth Gorllewin Berlin i ben fel endid ar wahân pan ailunwyd yr Almaen yn 1990.