Mur Berlin
Mur Berlin oedd yr enw answyddogol a roddwyd ar y mur anferth a godwyd ym 1961 ym Merlin rhwng Gorllewin Berlin a Dwyrain Berlin i atal ffoaduriaid rhag croesi i'r Gorllewin. Serch hynny, honnodd llywodraeth y Dwyrain i'r mur gael ei adeiladu er mwyn amddiffyn Dwyrain Berlin rhag "ffasgwyr" y Gorllewin. Am ddegawdau roedd Mur Berlin yn symbol o'r rhwyg rhwng Dwyrain a Gorllewin Ewrop a rhwng y Gorllewin a'r Byd Comiwnyddol yn gyffredinol.
![]() | |
Math |
cordon, cyn-adeilad, atyniad twristaidd, separation barrier, fortified line ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol |
Inner German border, Y Llen Haearn ![]() |
Sir |
Berlin, Dwyrain Berlin ![]() |
Gwlad |
Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, Yr Almaen ![]() |
Cyfesurynnau |
52.5161°N 13.3769°E ![]() |
Hyd |
180.9 cilometr ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth |
cultural heritage monument in Germany ![]() |
Cost |
400,000,000 ![]() |
Manylion | |
Deunydd |
Concrit cyfnerthedig ![]() |
Yn ystod cyfnod bodolaeth y mur, dihangodd tua 5000 o bobl dros y mur yn llwyddiannus. Mae rhyw ddadl am nifer y bobl a gollodd eu bywydau wrth iddynt geisio dianc. Yn ôl Alexandra Hildebrandt, cyfarwyddwr Amgueddfa Checkpoint Charlie, mwy na 200 o bobl fu farw; ond mae amcangyfrifion eraill yn is.
Ym mis Tachwedd 1989 chwalwyd rhan sylweddol o'r mur gan Almaenwyr cyffredin. Dyma un o ddigwyddiadau hanesyddol mwyaf yr 20g sy'n symboleiddio diwedd y Rhyfel Oer a'r newid mawr a fu yng ngwledydd Cytundeb Warsaw ac Ewrop gyfan yn sgil hynny.