Gorsaf Bŵer Dinorwig

gorsaf bŵer yng Nghwynedd

System storio a generadu egni dŵr yw Gorsaf Bŵer Dinorwig, a leolir ger Llanberis, Gwynedd. Mae’r gwaith yn gallu darparu pŵer uchaf o 1,728- megawatt (2,317,000 hp), gyda chynhwysedd storfa o tua 9.1 GWh (33 TJ) [1]. Mae'r orsaf ei hun oddi tan hen chwarel Dinorwig, ar lethrau Elidir Fawr. Un o'r gorsafoedd mwyaf o'i fath yn y byd ydy Dinorwig, gydag un o'r amseroedd ymateb cyflymaf hefyd.[2].

Gorsaf Bŵer Dinorwig
Mathgorsaf drydan storio a generadu egni dŵr Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1984 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.117843°N 4.107342°W Edit this on Wikidata
Map
Cost425,000,000 punt sterling Edit this on Wikidata

Hanes a Phwrpas yr Orsaf

golygu

Adeiladwyd y rhaglen ar adeg pan oedd cynhyrchu trydan yn Lloegr a Chymru yn gyfrifoldeb y corff llywodraethol, Y Central Electricity Generating Board (CEGB). Pwrpas y rhaglen oedd darparu storfa ynni a rheolaeth amlder ar gyfer adegau defnydd brig, gydag ymateb cyflym iawn. Lleihaodd yn arwyddocaol ymateb cyflym Dinorwig yr angen i gadw cynhwysedd wrth gefn ar eu generaduron eraill er mwyn ymdopi gyda brigau mewn galw.

Pan luniwyd y prosiect, roedd y CEGB yn defnyddio hen generaduron glo a nwy, isel eu heffeithlonrwydd, er mwyn ymdopi gyda galw uchel ar y grid. Mae Dinorwig yn gallu storio ynni rhad, y mae'n ei gynhyrchu gyda'r nos, neu ar adegau eraill pan fo'r galw'n isel, ac yn generadu wedyn yn ystod adegau galw brig. Roedd cynlluniau am adeiladu cyfleuster tebyg i Ddinorwig ger Exmoor ar yr un pryd, ond ni chafodd yntau ei adeiladu.[3] Gyda chynnydd ynni adnewyddiadwy megis pŵer gwynt a solar, bydd yr angen am storfeydd ynni fel Dinorwig yn cynyddu hefyd, er mwyn delio â natur ysbeidiol y fynonnellau hyn.

Heddiw, gweithredir Dinorwig nid dim ond i helpu ymdopi â llwythi brig, ond hefyd fel storfa bŵer wrth gefn tymor byr, yn darparu ymateb cyflym i amrywiadau yn y galw, neu golled sydyn gorsaf bŵer. Er enghraifft, ar ddiwedd rhaglen deledu genedlaethol boblogaidd, neu yn ystod egwyliau hysbyseb ar sianeli masnachol, mae miliynau o bobl yn troi tegelli trydan ymlaen ar yr un pryd, yn arwain at gynnydd yn y galw hyd at 2800 MW. Yn rhagweld yr ymchwydd hwn, troir generaduron ychwanegol ymlaen yn Ninorwig wrth i’r glodrestr ymddangos ar ddiwedd rhaglen. Fel y cyfryw, mae monitro sianneli teledu poblogaidd yn gallu bod yn erfyn pwysig i ganolfeydd rheoli’r grid.[4].

Adeiladu'r Orsaf

golygu

Adeiladwyd y gwaith yn hen chwarel llechi Dinorwig. Er mwyn amddiffyn harddwch naturiol Eryri, mae’r orsaf bŵer wedi’i hadeiladu y tu mewn i Elidir Fawr, mewn twneli a cheudyllau. Y contract peirianwaith sifil mwyaf erioed a roddir gan Lywodraeth y DU oedd Dinorwig ar y pryd, gyda’r adeiladu yn dechrau ym 1974 ac yn para am ddeng mlynedd. Roedd y prosiect yn costio £425 miliwn, ond adenillwyd y costau hyn mewn dwy flynedd. Roedd rhaid symud 12 miliwn o dunnelli o garreg o’r tu mewn y mynydd, yn creu twneli oedd yn ddigon eang am ddwy lori i basio ochr wrth ochr[5], a cheudwll enfawr 51 metr o daldra, 23 metr o led a 180 metr o hyd, a elwir The Concert Hall (Y Neuadd Gyngerdd yn y Gymraeg). Mae’r rhwydwaith twneli i gyd yn 16 km o hyd.

Gosodwyd ceblau dan ddaear sy'n rhedeg am chwe milltir i is-orsaf y Grid Cenedlaethol ym Mhentir, er mwyn osgoi codi peilonau yn y parc cenedlaethol.

Mae dŵr gormodol yn gorlifo i Lyn Padarn, a gollir o’r system cronfa. Roedd Llyn Peris a Llyn Padarn y ddau yn gartref i’r Torgoch, pysgod anghyffredin yn Ynysoedd Prydain. Pan gafodd y rhaglen ei chomisiynu, ymgymerwyd gwaith i drosglwyddo'u heigiau i lynnoedd addas eraill. Credir bod y Torgoch ddim yn bresennol yn Llyn Peris bellach, oherwydd lefel newidiol iawn y dŵr.

Cymeradwywyd yn 2013 storfa egni dŵr arall yn Nglyn Rhonwy sydd gerllaw, yn ei hen byllau llechi, am brîs disgwyledig o £120 miliwn. Erbyn 2019, mae’r prosiect wedi cyrraedd cam dylunio uwch.[6]

Gweithrediad

golygu

Mae'r dŵr yn cael ei storio yng nghronfa Marchlyn Mawr, 636 metr uwchben y môr. Pan mae angen generadu pŵer, rhyddheir dŵr i lawr pibellau a thrwy dyrbinau i Lyn Peris, cwymp o 530 metr. Mae’r dŵr yn cael ei bwmpio’n ôl i Farchlyn Mawr ar adegau allfrig. Er ei fod yn ymofyn mwy o drydan i bwmpio’r dŵr i fyny nag y generadir wrth iddo lifo i lawr, gwneir y pwmpio yn gyffredinol pan mae’r trydan yn rhatach, ac y generadu pan mae’n ddrutach.

Mae chwe generadur 300 MW yn y prif geudwll. Er mwyn darparu’r ymateb cyflym sydd yn angenrheidiol, o atalfa lawn, maen nhw’n gallu cyflawni pŵer uchaf mewn 75 eiliad. Fodd bynnag, yn rhedeg ar bŵer isaf, mae’n cymryd dim ond 18 eiliad i gyflawni hyn. Mae’r orsaf yn gallu darparu pŵer am hyd at chwe awr cyn rhedeg mas o ddŵr.

Mae’r orsaf yn gallu storio 9.1 GWh o ynni ar gynhwysedd llawn. Ar allbwn brig, mae dŵr yn llifo drwy’r tyrbinau ar 390,000 litr (yn fras cyfaint pwll nofio 25 metr) pob eiliad. Lluniwyd Dinorwig hefyd er mwyn cynorthwyo gyda ‘chychwyn du’- ailgychwyn y Grid Cenedlaethol tasai’r rhwydwaith i ddioddef methiant pŵer cyflawn.

Hybir yr orsaf bŵer fel atyniad twristiaeth, lle mae ymwelwyr yn gallu cymryd gwibdaith bws o Fynydd Gwefru (enw y ganolfan ymwelwyr ym mhentref Llanberis) i weld y peirianwaith y tu mewn i’r mynydd. Mae’r profiad ymwelwyr ar gau ar hyn o bryd oherwydd gwaith adnewyddu.

Dolen allanol

golygu
  1. "Ffeithiau a Ffigurau am Ddinorwig". www.electricmountain.co.uk. 16 Rhagfyr 2020. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-27. Cyrchwyd 2020-12-16.
  2. (Saesneg)Britain's largest battery is actually a lake. Event occurs at 2:57. Cyrchwyd 16 Rhagfyr 2020.
  3. (Saesneg)"Grid-connected energy storage: a new piece in the UK energy puzzle – The Engineer The Engineer". www.theengineer.co.uk. 8 Tachwedd 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-09-27. Cyrchwyd 2020-12-16.
  4. (Saesneg)"National Grid leaflet: "Forecasting Demand"" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 29 Rhagfyr 2009. Cyrchwyd 3 Ionawr 2010.
  5. (Saesneg)International Power [https://web.archive.org/web/20160512031732/http://www.fhc.co.uk/dinorwig.htm Archifwyd 12 Mai 2016 yn y Peiriant Wayback
  6. (Saesneg)"Project Status". Snowdonia Pumped Hydro. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-03-08. Cyrchwyd 21 October 2019.