Agor y brif ddewislen
Gwaith hydroelectrig Llyn Stwlan, ger Ffestiniog, Gwynedd lle cynhyrchir 360 MW o drydan o fewn eiliadau o wasgu botwm

Egni (ar furf trydan) wedi'i gynhyrchu o ddŵr ydy egni hydro neu egni dŵr neu hydroelectrig ac mae sawl math ar gael heddiw. Daw o ganlyniad i ddŵr yn symud mewn gwahanol ffyrdd, er enghraifft, dŵr yn troi olwyn y felin. Ymhlith y dulliau mwyaf poblogaidd o greu trydan, y mae hydroelectrig megis 'mynydd electrig', Llanberis lle mae dŵr y llyn yn llifo i lawr pibellau drwy rym disgyrchiant ac yn troi tyrbeinau. Cynhyrchir 1728 MegaWatt (MW) o drydan yma drwy droi chwe generadur anferthol.

Ceir dulliau eraill o symud egni o un lle i'r llall drwy egni hydro ee

  • tyrbeini mewn afonydd
  • egni o'r llanw
  • egni allan o donnau'r môr
  • egni allan o fortecs

Ceir hefyd ffermydd gwynt yn y môr, ffermydd megis fferm wynt North Hoyle gerllaw Prestatyn, ond nid oes a wnelo'r rhain ddim oll ag egni hydro. Ynni gwynt a gynhyrchir o felinau gwynt ar y môr yw'r rhain.

Ynni hydro cyntaf gwledydd PrydainGolygu

Yr egni hydro cyntaf i'w gael ei gynhyrchu yng ngwledydd Prydain oedd yng Nghwm Dyli ger Beddgelert, ar 13 Awst, 1906 gyda'r dŵr yn llifo i lawr y mynydd o Lyn Llydaw.[1]

Lagŵn Bae AbertaweGolygu

Prif erthygl: Lagŵn Bae Abertawe

Ym Mehefin 2015 rhoddwyd caniatâd i brosiect enfawr i harneisio ynni carbon isel ym Mae Abertawe ac a fydd y mwyaf o'i fath drwy'r byd ar ôl ei gwbwlhau.[2] Saif Bae Abertawe o fewn aber yr afon Hafren ac amrediad llanw'r aber yw'r ail fwyaf yn y byd - gyda'r gwahaniaeth rhwng trai a llanw cymaint a 10.5m metr ar ei uchaf.[3] Lleolir y lagŵn, a'i forglawdd, i'r de o Ddoc y Frenhines - rhwng Afon Tawe a ac Afon Nedd. Disgwylir y bydd y prosiect yn cynhyrchu 250MW o drydan - digon i gyflenwi 155,000 o gartrefi, dros gyfnod o 120 o flynyddoedd.

TsieinaGolygu

Saif Argae'r Tri Cheunant (sy'n creu 22,500 MW o drydan) yn Tsieina yn 1994.

CyfeiriadauGolygu

  1. Rhywbeth Bob Dydd gan Hafina Clwyd, cyhoeddwyd gan wasg Carreg Galch, Medi 2008, tudalen 108.
  2. www.tidallagoonswanseabay.com; adalwyd 18 Mehefin 2015
  3. Tidal Lagoon Swansea Bay