Gorsaf reilffordd Bewdley

Mae Gorsaf reilffordd Bewdley yn orsaf ar Reilffordd Dyffryn Hafren[1] yng Nghaerwrangon.

Hanes golygu

Agorwyd yr orsaf ym 1862[2] ar reilffordd rhwng Hartlebury ac Amwythig ar Rheilffordd y Canolbarth Gorllewin, cyn dod yn rhan o Reilffordd y Great Western (GWR).[3] Daeth yr orsaf yn gyffordd pan agorwyd Rheilffordd Tenbury & Bewdley Railway trwy Gorsaf reilffordd Wyre Forest ym 1864. Agorwyd rheilffordd rhwng Bewdley a Kidderminster gan y Great Western ym 1878.

Caewyd y cangen i Wyre Forest ym 1962 ac hefyd y llinell Dyffryn Hafren ym 1963. Caewyd Gorsaf reilffordd Sturport-on-Severn, Arhosfa Burlish, Bewdley, Arhosfa Parc Foley a Gorsaf reilffordd Kidderminster ym mis Ionawr 1970.

Rheilffordd Dyffryn Hafren golygu

Prynwyd y tir, cledrau ac adeiladau gan ymddiriedolaeth Rheilffordd Dyffryn Hafren ym 1974, ac agorwyd y rheilffordd o Bridgnorth i Hampton Loade, Highley a Bewdley yn ystod yr un flwyddyn.

O 1980 ymlaen, roedd trenau achlysurol i Bewdley o Kidderminster, ac yn hwyrach o Birmingham. Dechreuodd gwasanaethau’r Rheilffordd Dyffryn Hafren o Kidderminster ar ôl gorffen trenau Betys melys i Parc Foley (ym 1982) ac agoriad Gorsaf Rheilffordd Dyffryn Hafren Kidderminster ym 1984.

Y dyfodol golygu

Mae galwadau i ddod â’r orsaf yn ôl i rwydwaith genedlaethol y rheilffyrdd, a thrafodaethau gyda Threnau Canolog, Rheilffordd Llundain a’r Canolbarth a Threnau’r Canolbarth Gorllewinol.[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Rheilffordd Dyffryn Hafren
  2. "Visit us". Gwefan Rheilffordd Dyffryn Hafren. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2022.
  3. The Severn Valley Railway gan John Marshall, 1989; cyhoeddwr David St John Thomas;isbn=0-946537-45-3
  4. Gwefan transportxtra.com

Dolen allanol golygu