Gorsaf reilffordd Damems
Mae Gorsaf reilffordd Damems yn orsaf ar Reilffordd Keighley a Dyffryn Worth sy’n rheilffordd dreftadaeth yn Swydd Efrog. Mae’n arhosfan ar gais.
Agorwyd yr orsaf ar 1 Medi 1867, sawl mis ar ôl gweddill y gorsafoedd ar y lein, i wasanaethu melin gerllaw[1] a chaewyd yr orsaf ar 23 Mai 1949, cyn caewyd gweddill y gangen. Ailagorwyd yr orsaf ar 29 Mehefin 1968. Adeiladwyd ystafell aros newydd ym 1993.[2] Mae gan yr orsaf oleuadau nwy.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan y rheilffordd". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-11. Cyrchwyd 2020-07-06.
- ↑ "Gwefan worthexploring.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-07-06. Cyrchwyd 2020-07-06.
- ↑ Gwefan flickr
Dolen allanol
golygu- Gwefan y rheilffordd Archifwyd 2020-08-11 yn y Peiriant Wayback