Rheilffordd dreftadaeth
Mae rheilffordd dreftadaeth yn rheilffordd a gynhelir ar gyfer ei werth hanesyddol, naill ai oherwydd y lein ei hun, yr hanes sydd yn gysylltideig â hi, neu'r stoc a redir neu a arferid rhedeg ar y lein. Fel arfer mae'r rheilffyrdd hyn yn cynnig teithiau i'r cyhoedd fel gweithgaredd hamdden, ac y mae'r rhan fwyaf yn dibynnu (i raddau o leiaf) ar wirfoddolwyr i'w rhedeg ac i'w hariannu. Ceir y rheilffyrdd hyn ar draws y byd, o'r Unol Daleithiau i Seland Newydd, fel arfer yn y gwledydd mwyaf goludog.
Math | llinell rheilffordd, amgueddfa awyr agored, treftadaeth ddiwylliannol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod nifer o reilffyrdd treftadaeth wedi ceisio ail agor leiniau gyda'r bwriad o gynnig gwasanaeth cludiant masnachol, mae'r rhan fwyaf wedi methu â denu teithwyr lleol digonol i lwyddo. Rheilffyrdd twristiaid ydyw bron pob un felly, er eu bod yn elfen bwysig iawn yn y dehongliad o hanes trafnidiaeth. Mae'r rhai gorau, megis Rheilffordd Ffestiniog, Rheilffordd Talyllyn, Rheilffordd Dyffryn Hafren, Rheilffordd Gorllewin Gwlad yr Haf, Rheilffordd Bluebell a Rheilffordd Rhosydd Gogledd Swydd Efrog yn ail-greu naws ac awyrgylch oes stêm y rheilffyrdd ac yn gwarchod darnau pwysig o'r dreftadaeth ddiwydiannol, yn cynnwys injans, coetsis a gwagenni, signalau, ac adeiladau rheilffordd.
Fel arfer, mae cymdeithas o gefnogwyr ynghlwm wrth y rheilffyrdd unigol hyn. Y gymdeithas gyntaf yn y byd i gael ei ffurfio gyda'r bwriad o brynu, gwarchod a rhedeg rheilffordd dreftadaeth oedd Cymdeithas Cadwraeth Rheilffordd Talyllyn.