Agor y brif ddewislen

Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Glasgow

Adeiladwyd gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Glasgow (Gaeleg yr Alban: Sràid na Banrighinn, Saesneg: Glasgow Queen Street) ym 1842, yn derminws i Reilffordd Caeredin a Glasgow, yn gwasanaethu gogledd a dwyrain yr Alban, gan gynnwys Caeredin, Aberdeen ac Inverness. Enw gwreiddiol yr orsaf oedd Heol Dundas.[1] Wrth adael yr orsaf, mae'r lein yn dringo'n serth i Cowlairs, ac roedd angen injan stêm disymud i dynnu trenau i fyny hyd at 1909.[2]

Heol y Frenhines Glasgow National Rail logo.svg
Saesneg: Glasgow Queen Street
Glasgow Queen Street station - DSC06139.JPG
Lleoliad
Lleoliad Glasgow
Awdurdod lleol Cyngor Dinas Glasgow
Gweithrediadau
Côd gorsaf GLQ
Rheolir gan Abellio ScotRail
Nifer o blatfformau 9
Cyraeddiadau/gwyriadau fyw a gwybodaeth orsaf
gan National Rail Enquiries
Defnydd teithwyr blynyddol

Ailadeiladwyd ac ehangwyd yr orsaf gan Reilffordd Gogledd Prydain rhwng 1878 a 1880. Agorwyd gorsaf Heol y Frenhines (Lefel Isel) o dan y rheilffordd wreiddiol ym 1886. Mae trenau'n mynd o Helensburgh i Airdrie.[1] Caewyd gorsaf Heol Buchanan ym 1966, a throsgwyddodd ei threnau i Heol y Frenhines, yn cynyddu pwys ar orsaf Heol y Frenhines.[3] Mae maint y safle'n gyfyngedig gan dwnnel syth o flaen yr orsaf; rhaid i drenau fod yn fyr (6 cherbyd ar y mwyaf).[3]

CyfeiriadauGolygu

Dolen allanolGolygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am orsaf reilffordd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.