Gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Glasgow
Adeiladwyd gorsaf reilffordd Heol y Frenhines Glasgow (Gaeleg yr Alban: Sràid na Banrighinn, Saesneg: Glasgow Queen Street) ym 1842, yn derminws i Reilffordd Caeredin a Glasgow, yn gwasanaethu gogledd a dwyrain yr Alban, gan gynnwys Caeredin, Aberdeen ac Inverness. Enw gwreiddiol yr orsaf oedd Heol Dundas.[1] Wrth adael yr orsaf, mae'r lein yn dringo'n serth i Cowlairs, ac roedd angen injan stêm disymud i dynnu trenau i fyny hyd at 1909.[2]
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf pengaead ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1842 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Glasgow ![]() |
Sir | Dinas Glasgow ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 55.8622°N 4.2512°W ![]() |
Cod OS | NS591655 ![]() |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 9 ![]() |
Côd yr orsaf | GLQ ![]() |
Rheolir gan | Abellio ScotRail, Glasgow, Dumbarton and Helensburgh Railway, Edinburgh and Glasgow Railway ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig categori A ![]() |
Manylion | |
Ailadeiladwyd ac ehangwyd yr orsaf gan Reilffordd Gogledd Prydain rhwng 1878 a 1880. Agorwyd gorsaf Heol y Frenhines (Lefel Isel) o dan y rheilffordd wreiddiol ym 1886. Mae trenau'n mynd o Helensburgh i Airdrie.[1] Caewyd gorsaf Heol Buchanan ym 1966, a throsgwyddodd ei threnau i Heol y Frenhines, yn cynyddu pwys ar orsaf Heol y Frenhines.[3] Mae maint y safle'n gyfyngedig gan dwnnel syth o flaen yr orsaf; rhaid i drenau fod yn fyr (6 cherbyd ar y mwyaf).[3]