Gorsaf reilffordd Preston
Mae gorsaf reilffordd Preston yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu dinas Preston yn Swydd Gaerhirfryn, Gogledd-orllewin Lloegr. Mae'r orsaf yn sefyll ar brif linell Arfordir y Gorllewin ac fe'i rheolir gan Virgin Trains. Mae llinellau eraill yn mynd i Blackpool, Manceinion, Lerpwl, Blackburn a Burnley.
Math | gorsaf reilffordd, union station |
---|---|
Enwyd ar ôl | Preston |
Agoriad swyddogol | 1850 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas Preston |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 53.756°N 2.7072°W |
Cod OS | SD534290 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 9 |
Côd yr orsaf | PRE |
Rheolir gan | Virgin Trains |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II |
Manylion | |
Agorwyd yr orsaf ym 1880. Mae’r orsaf yn adeilad rhestredig gradd II. Perchennog yr orsaf yw Network Rail, ond rheolir yr orsaf gan Virgin Rail. Defnyddir yr orsaf hefyd gan drenau Northern Rail. Preston yw’r orsaf prysuraf yn yr ardal tu allan o Lerpwl a Manceinion. Mae tua 5 miliwn o deithiau’n dechau o’r orsaf yn flynyddol, ac mae 1.9 miliwn o deithwyr yn newid trenau yno.[1]
Agorwyd bwffe am ddim ar gyfer milwr o morwyr ym mis Awst 1915, yn yr hyn sydd bellach yn ystafell aros. Cariwyd bwyd i’r dynion oedd yn mynd trwodd ar drenau hefyd. Gwirfoddolodd 400 o ferched i roi bwyd iddynt. Caewyd y bwffe yn Nhachwedd 1919. Bwydwyd cyfanswm o 3.5 miliwn o filwyr a morwyr.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gwefan y Lancashire Evening Post, 5 Ionawr 2018". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-04. Cyrchwyd 2019-09-04.
- ↑ "Gwefan lancashireatwar.co.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-04. Cyrchwyd 2019-09-04.