Gogledd-orllewin Lloegr

rhanbarth swyddogol Lloegr

Un o naw rhanbarth swyddogol Lloegr yw Gogledd-orllewin Lloegr (Saesneg: North West England).

Gogledd-orllewin Lloegr
Mathrhanbarthau Lloegr, ITL 1 statistical regions of England Edit this on Wikidata
Poblogaeth7,341,196, 7,292,093, 7,084,300, 7,516,113 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLloegr Edit this on Wikidata
GwladBaner Lloegr Lloegr
Arwynebedd14,165 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a'r Humber, Gogledd-ddwyrain Lloegr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.075°N 2.75°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE12000002 Edit this on Wikidata
Map
Lleoliad Gogledd-orllewin Lloegr yn Lloegr

Mae'n cynnwys pum sir seremonïol:

Mae Gogledd-orllewin Lloegr yn ffinio â Môr Iwerddon i'r gorllewin a'r Pennines i'r dwyrain, ac mae'n ymestyn o Ororau'r Alban yn y gogledd i fynyddoedd Cymru yn y de. Scafell Pike yn Cumbria, sef copa uchaf Lloegr (978m), yw'r pwynt uchaf yn y rhanbarth.

Mae dwy ardal drefol fawr, wedi eu canoli ar ddinasoedd Lerpwl a Manceinion, yn llenwi de'r rhanbarth – dyma'r ardal fwyaf poblog. Mae gogledd y rhanbarth, gan gynnwys gogledd Swydd Gaerhirfryn a Cumbria, yn wledig gan mwyaf.

Yng Nghyfrifiad y Deyrnas Unedig 2011 roedd gan Gogledd-orllewin Lloegr boblogaeth o 7,052,177.

Cyfeiriadau golygu

Dolen allanol golygu