Gorsaf reilffordd Union, Portland (Oregon)

Mae Gorsaf reilffordd Union, Portland (Oregon) yn orsaf reilffordd yn ninas Portland, yn nhalaith Oregon., yn sefyll agos i Afon Willamette. Defnyddir yr orsaf gan wasanaethau Amtrak: y Cascades, Coast Starlight a’r Empire Builder. Gwasanaethir yr orsaf hefyd gan reilffordd ysgafn MAX, tramiau, bysiau lleol a bysiau i ddinasoedd eraill. Mae’r ddinas yn perchennog ar yr orsaf, sydd o dan reolaeth Prosper Portland, asiantaith adnewyddu’r ddinas. Mae bron 30 o denantiaid yn talu $200,000 yn flynyddol, gan gynnwys Amtrak.

Gorsaf reilffordd Union
Trên Amtrak yn yr orsaf

Gwasanaethau golygu

Mae’r orsaf yn un o 2 derminws gorllewinol y trên Amtrak “Empire Builder”. Mae’r trên yn gwahannu yn Spokane. Mae’r hanner arall yn mynd ymlaen i Seattle.

Mae’r “Coast Starlight” yn stopio ar ei siwrnai rhwng Seattle a Los Angeles. Mae Portland yn derminws hefyd i 2 drên Amtrak “Cascades” o Vancouver, Columbia Prydeinig a 4 o Seattle, yn ogystal â 2 drên “Cascades” o Eugene.

Mae Portland yr orsaf reilffordd Amtrak 21ain mwyaf brysur yn yr Unol Daleithiau[1]

Bysiau golygu

Cafodd Cwmni Greyhound orsaf fysiau drws nesaf i’r orsaf reilffordd rhwng 1985[2] a Medi 2019. Ers 2019 mae bysiau’r cwmni wedi stopio ar heol gerllaw.[3]

Hanes golygu

 
Yr orsaf ym 1913

Crewyd cynllun i’r orsaf ym 1882 gan McKim, Mead & White. Buasai’r orsaf wedi bod yr un fwyaf yn y byd.[4] Derbynwyd cynllun gan Van Brunt & Howe am orsaf lai ym 1885. Adeiladwyd yr orsaf gan Reilffordd y Northern Pacific rhwng 1890 a 1896, yn costio $300,000.Agorwyd yr orsaf ar 14 Chwefror 1896.

Ychwanegwyd arwyddion neon i’r tŵr cloc ym 1948.[5][6] Eu geiriau oedd "Go by Train" ar ochrau gogledd ddwyreiniol a de orllewinol, ac "Union Station" ar ochrau gogledd orllewinol a de ddwyreiniol.

Diffoddwyd yr arwyddion ym Mawrth 1971, pan oedd Rheilffordd y Union Pacific a Rheilffordd Burlington Northerrn yn paratoi i drosglwyddo eu gwasanaethau i deithwyr i Amtrak a phenderfynwyd perchennog yr orsaf, [[Rheilffordd Terminal Portland diffodd yr arwyddion. Roedd ymgyrch gan y Gymdeithas Rheilffordd Genedlaethol Hanesyddol a Chymdeithas o Deithwyr Rheilffyrdd Oregon i ail-oleuo’r arwyddion. Ail-oleuwyd yr arwyddion ym Medi 1985.[7]

Gosodwyd yr orsaf ar Gofrestr Cenedlaethol o Lefydd Hanesyddol ym 1975.[8]

Trosglwyddodd yr orsaf a’r tir o’i chwmpas oddi wrth Reilffordd Terminal Portland i Gomisiwn Datblygu Portland ym 1987.[9]

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tudalen wybodaeth genedlaethol Amtrak 2018
  2. ’Greyhound depot reaches end of line; new terminal opens in NW Portland’ Erthygl gan Steve Erickson yn ‘Yr Oregonian, 11 Medi 1985
  3. ’Portland Greyhound station moves out; terminal site in NW up for sale’; erthygl gan Andrew Theen yn ‘Yr Oregonian, 9Medi 2019
  4. ’A 'pretty scary place' turns around’; Erthygl gan Andrew Giarelli yn Yr Oregonian, 3 Mai 2007
  5. ’Rail clock buffs want to light up your life’ gan Stan Federman; yr Oregonian, 1 Mai1985
  6. ’Portland's Pearl District’ gan Christopher S Gorsek; Cyhoeddwyr Arcadia, 2012;isbn=978-0-7385-9324-1
  7. "Sneak preview", yr Oregonian, 19 Medi 1985
  8. Gwefan Cofrestr Cenedlaethol o Lefydd Hanesyddol
  9. ’Union Station has more needs than funds’; yr Oregonian, 3 Mai 2007