Gorsaf reilffordd Y Fflint
Mae Gorsaf reilffordd y Fflint yn orsaf reilffordd yn gwasanaethu tref y Fflint yn Sir y Fflint, Cymru. Mae'r orsaf ar y Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru ac mae gwasanaethau teithwyr yn cael eu gweithredu gan Trafnidiaeth Cymru.
Math | gorsaf reilffordd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Y Fflint |
Agoriad swyddogol | 1848 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Y Fflint |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.25°N 3.133°W |
Cod OS | SJ245731 |
Nifer y platfformau | 2 |
Côd yr orsaf | FLN |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Cynlluniwyd yr orsaf gan Francis Thompson ar gyfer Rheilffordd Caer a Chaergybi. Agorwyd yr orsaf ar 1 Mai 1848. Mae’r orsaf yn un restredig Gradd II. Atgyweiriwyd yr orsaf yn 2007 gan Network Rail, yn costio miliwn o bynnoedd.[1][2]