Trenau Arriva Cymru

Roedd Trenau Arriva Cymru (Saesneg: Arriva Trains Wales) yn gwmni a oedd yn gweithredu trenau yng Nghymru a'r gororau, ac yn berchen i Arriva UK Trains. Roedd yn rhedeg gwasanaethau trefol a rhyng-drefol i bob orsaf reilffordd yng Nghymru, yn cynnwys Caerdydd Canolog, Heol y Frenhines, Caerdydd, Casnewydd, Abertawe, Wrecsam, a Chaergybi, a rhai gorsafoedd yn Lloegr fel Henffordd, Amwythig, Caer, Piccadilly Manceinion, New Street Birmingham. Yng Ngogledd Cymru, mae Virgin Trains yn gweithredu trenau o Lundain i Gaergybi, ac yn Ne Cymru, mae First Great Western yn gweithredu trenau o Lundain i Abertawe, a Harbwr Portsmouth i Gaerdydd. Mae Arriva Cross Country'n gweithredu trenau o Nottingham i Gaerdydd.

Trenau Arriva Cymru
Gorolwg
MasnachfraintCymru a'r Gororau
8 Rhagfyr 2003 –
13 Hydref 2018
Prif ardal(oedd)Cymru
Ardal(oedd) arallGogledd-orllewin Lloegr
Gorllewin Canolbarth Lloegr
De-orllewin Lloegr
Maint fflyd125 uned
3 set locomotif tynnu
Gorsafoedd weithredir247[1]
Llwybrau weithredir (km)1623.8
Talfyriad National RailAW
OlynyddTrafnidiaeth Cymru
Cwmni rhiantArriva UK Trains
Gwefanarrivatrainswales.co.uk

Cychwynodd y cwmni weithredu yn Rhagfyr 2003, gan gymryd yr awennau o gwmni Wales & Borders. Yn dilyn Deddf Rheilffordd 2005 a Deddf Trafnidiaeth (Cymru) 2006, datganolwyd cyfrifoldeb dros y fasnachfraint i Lywodraeth Cymru. Daeth masnachfraint Arriva i ben yn Hydref 2018 ac er i'r cwmni gynnig cais ar gyfer dewis darparwr newydd, fe dynnodd y cwmni allan o'r broses yn Hydref 2017. Mae'r darparwr newydd yn gweithredu o dan adain cwmni sy'n berchen i Lywodraeth Cymru, sef Trafnidiaeth Cymru.

Un o drenau Arriva Cymru'n cyrraedd Deganwy

Ystadegau allweddol (2011-12) golygu

  • Cilomedrau teithwyr: 1,142 miliwn
  • Teithiau teithwyr: 28.4 miliwn
  • Cilomedrau trenau wedi eu hamserlennu: 23.6 miliwn
  • Nifer y gweithwyr: 2,012
  • Cilomedrau llwybrau a weithredir: 1,840.8
  • Nifer y gorsafoedd a weithredir: 243 [2]

Dibynadwyedd golygu

Mae Trenau Arriva Cymru'n eithaf dibynadwy - mae 89.9% o drenau'n cyrraedd mewn pryd.[3] Yn 2010/2011, roedd y canran o drenau prydlon yn 90.6%.[4]

Perchnogaeth golygu

Yn 2010, prynodd Deutsche Bahn y cwmni Trenau Arriva Cymru am £1.59 biliwn.

 
Trenau Arriva Cymru yn yr hen orsaf reilffordd Pontrilas.

Gwasanaethau iaith Gymraeg golygu

 
Arwydd dwyieithog mewn gorsaf

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn gorfodi'r holl wasanaethau cyhoeddus i arddangos arwyddion yn Gymraeg. Fodd bynnag, gan ei bod yn gwmni preifat nid oes raid i Drenau Arriva Cymru wneud hynny ond mae'n dewis arddangos arwyddion yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac yn aml gyda'r Gymraeg yn ymddangos gyntaf. Maent hefyd yn darparu cyhoeddiadau Cymraeg mewn gorsafoedd ac ar drenau.

Trenau golygu

Mae gan Drenau Arriva Cymru 123 trên.

Math trên Llun Math Cyflymder Swm Llwybrau Rhifau uned Adeiladwyd
mya km/h
Class 57   Locomotif diesel 95 152 4 Gogledd i Dde Cymru - Premier 57313/314/315/316 1997–2004
Class 121   Uned Diesel 70 112 1 Bae Caerdydd - Heol y Frenhines 121032[5] 1958–1960
Class 142   Uned Diesel 75 120 15 Cymoedd De Cymru 142002 / 006 / 010 / 069 / 072 - 077 / 080 - 083 / 085[6] 1985
Class 143   Uned Diesel 75 120 15 Cymoedd De Cymru 143601 /602 / 604 - 610 / 614 / 616 / 622 - 625[7] (Mae TAC wedi scrapio trên 615 achos fod e'n fynd ar dân) 1985
Class 150/2   Uned Diesel 75 120 31 Cymoedd De Cymru 150208 / 213 / 217 / 227 / 230 - 231 / 235 - 237 / 240 - 242 / 245 / 250 - 260 / 262 / 264 / 267 / 278 - 281 / 283 - 285[8] 1983-85
Class 153   Uned Diesel 75 120 8 Llinellau lleol, Bae Caerdydd - Heol y Frenhines 153303 / 312 / 320 / 323 / 327 / 353 / 362 / 367[9] 1987–1988
Class 158   Uned Diesel 90 145 24 Prif linellau rheilffordd 158818 - 841[10] 1989–1992
Class 175   Uned Diesel 100 160 27 Prif linellau rheilffordd 175001 - 011 / 175101 - 116[11] 1999–2001
Mark 2 Coach   Cerbyd 100 160 22 Gogledd i Dde Cymru - Premier 5853 / 5869 / 5913 / 5965 / 5971 / 5976 / 6008 / 6013 / 6035 / 6064 / 6066 / 6119 / 6124 / 6137 / 6162 / 6170 / 6183 / 9503 / 9509 / 9521 / 9524 / 9539 / [12] 1972–1975
Mark 3 Coach   Cerbyd 125 200 5 Gogledd i Dde Cymru - Premier 1972–1988

Cyfeiriadau golygu

  1. "Our Company". Arriva Trains Wales. Cyrchwyd 28 April 2017.
  2. "http://dataportal.orr.gov.uk". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-21. Cyrchwyd 2012-09-14. External link in |title= (help)
  3. Network Rail Punctuality Statistics
  4.  Class 121 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  5.  Class 142 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  6.  Class 143 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  7.  Class 150 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  8.  Class 153 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  9.  Class 158 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  10.  Class 175 fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.
  11.  Mark 2 coaching stock fleet list. thejunction.org.uk. Adalwyd ar 2008-07-22.

Dolennau allanol golygu